Newyddion

“Dim ond y dechrau” yw'r Gyllideb Ddrafft £27 biliwn – Ysgrifennydd Cyllid

Senedd Cymru - Welsh Parliament

Mae mwy na £27 biliwn wedi'i nodi gan Lywodraeth Cymru i gefnogi gwasanaethau cyhoeddus.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Cyllid Mark Drakeford mai “dim ond y dechrau” yw Cyllideb Ddrafft Cymru ar gyfer 2026-27, wrth iddo annog pleidiau gwleidyddol i weithio gyda Llywodraeth Cymru i wneud yn siŵr ei bod yn cael ei phasio ym mis Ionawr 2026.

Mae'n darparu llwyfan sefydlog i wasanaethau cyhoeddus gynllunio yn y cyfnod cyn etholiad y Senedd.

Yn y flwyddyn ariannol nesaf, bydd gan holl adrannau'r llywodraeth o leiaf yr un faint o gyllid, mewn termau real, ag a oedd ganddynt eleni.

Mae'r Gyllideb Ddrafft yn cael ei chyhoeddi mewn dau gam – heddiw (14 Hydref 2025) yw'r cam amlinellol cyntaf, pan fydd dyraniadau'r adrannau'n cael eu cyhoeddi:

  • Mae cyllideb uwch y llynedd yn parhau eleni, gyda chynnydd o 2% arall, sy'n cydnabod rhagolwg y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol ar gyfer chwyddiant.
  • Rydym yn ailadrodd y ymrwymiadau a wnaed yng Nghyllideb 2025-26 ac yn rhoi mwy na £800 miliwn o gyllid ychwanegol i adrannau Llywodraeth Cymru.
  • Mae mwy na £27.1 biliwn yn cael ei ddyrannu yn y Gyllideb Ddrafft – 98.6% o'r cyllid sydd ar gael i Lywodraeth Cymru ar gyfer 2026-27.
  • Yr adran iechyd, gofal cymdeithasol a'r blynyddoedd cynnar sy'n derbyn y dyraniad refeniw mwyaf, sef £12.4 biliwn.
  • Rydym yn benderfynol o gydnabod yr amgylchiadau penodol sy’n effeithio ar lywodraeth leol wrth i ni weithio gyda'n gilydd ar setliad a fydd yn diogelu swyddi a gwasanaethau rheng flaen, gan ddeall y rheolau llym y mae'n rhaid iddi gydymffurfio â nhw wrth lunio ei chyllidebau. 

Bydd cam nesaf y Gyllideb Ddrafft, sy'n cynnwys cynlluniau gwariant adrannol manylach, yn cael ei gyhoeddi ar 3 Tachwedd 2025. Bydd y setliad llywodraeth leol drafft yn cael ei gyhoeddi yn nes ymlaen ym mis Tachwedd.

I ddarllen y cyhoeddiad ewch i LLYW.Cymru.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.