O’r 25 Chwefror 2026 ymlaen, ni fydd ymwelwyr yn gallu teithio i'r DU heb ganiatâd ymlaen llaw.
Bydd angen i ymwelwyr o 85 o genhedloedd (ac eithrio dinasyddion Prydain ac Iwerddon), gan gynnwys yr Unol Daleithiau, Canada a Ffrainc, nad oes angen fisa arnynt, gael Awdurdodiad Teithio Electronig (ETA) i allu teithio’n gyfreithlon i’r DU.
Ni fydd cludwyr yn caniatáu ymwelwyr cymwys ar eu bwrdd heb fod ganddynt un. Lle bynnag y bo modd, bydd y caniatâd yn cael ei gysylltu'n ddigidol â'r pasbort a ddefnyddir. Rhaid dangos hyn drwy ETA, eFisa, prawf ffisegol derbyniol arall neu esemptiad.
Am ragor o wybodaeth dilynwch y dolenni canlynol: