Ymunwch â'r sesiynau codi ymwybyddiaeth rhithiol hyn ar addasiadau rhesymol yn y gweithle sy'n addas i bobl niwrowahanol.
Darperir y sesiwn hon gan berson niwrowahanol sydd wedi dysgu pa fath o strategaethau y byddai’n ei helpu yn ei swydd yn Llywodraeth Cymru. Mae'n codi ymwybyddiaeth ac yn rhoi trosolwg o sut y gall Addasiadau Rhesymol / Gweithle gefnogi ystod amrywiol o unigolion. Mae'n annog sgyrsiau gonest am fod yn berson anabl ac anghenion cyffredinol pobl, gan normaleiddio addasiadau fel arfer da.
Mae’r sesiwn yn addas i unrhywun – unigolion niwrowahanol, unigolion niwrodebygol/niwronodweddiadol, cyflogwyr, cydweithwyr neu unrhywun sydd â diddordeb i ddysgu mwy am y maes yma. Mae’n cynnig strategaethau i amrywiaeth eang o bobl lle mae unigolion yn gweithio mewn swyddfa/o adref ag wrth gyfrifiadur.
Bydd y sesiwn yn para tua 1.5 awr sy'n cynnwys seibiant byr ac amser ar gyfer cwestiynau.
Dyddiadau ac amseroedd isod:
- 20 Ionawr 2026, 2pm (Saesneg) – archebwch eich lle
- 22 Ionawr 2026, 1pm (Cymraeg) – archebwch eich lle
- 18 Chwefror 2026, 10.30am (Saesneg) – archebwch eich lle
- 20 Chwefror 2026, 10.30am (Cymraeg) – archebwch eich lle
- 18 Mawrth 2026, 11am (Saesneg) – archebwch eich lle
- 19 Mawrth 2026, 10.30am (Cymraeg) – archebwch eich lle