Blogiau

Diffygiad arweinwyr: yr effaith domino ar eich tîm

Looking out to sea

Gan Pete Johnson, Partner Aur y Rhaglen Cyflymu Twf.

Diffygiad yw'r blinder corfforol ac emosiynol sy'n deillio o bwysau parhaus heb fod gennych chi unrhyw gyfle gwirioneddol i wella. Mae'n fwy nag wythnos ddrwg sy'n mynd heibio; mae'n lludded araf sy'n cronni dros fisoedd.

Os ydych chi'n rhedeg neu'n arwain busnes sy'n tyfu, fel arfer does neb uwch eich pen chi i sylwi eich bod chi'n diffygio.

Nid gwendid yw diffygiad. Mae'n dod o bwysau parhaus nad yw byth yn lleihau mewn gwirionedd ac i arweinwyr busnes, mae'r pwysau hwnnw'n dod o bobman ar unwaith: buddsoddwyr, llif arian, bod yn wyneb cyhoeddus y busnes a'r safonau rydych chi'n eu gosod i chi'ch hun. Ychwanegwch at hynny bwysau swyddi pobl eraill sy’n dibynnu ar y penderfyniadau a wnewch chi ac mae'n hawdd gweld pam mai arweinwyr yw'r olaf i sylwi eu bod nhw’n cael trafferth yn aml.

Mae rhywfaint o hyn yn deillio o ffactorau amgylchiadol. Mae rhywfaint ohono'n mynd yn ôl ymhellach na hynny: sut y cawsoch chi eich magu, eich rheolwr cyntaf, y llwyddiannau neu'r anawsterau cynnar a luniodd sut rydych chi'n ymdopi â phwysau nawr. Beth bynnag yw'r ffynhonnell, mae'n tueddu i ymddangos yn yr un lleoedd.

Sut mae'n lledaenu trwy eich tîm

Gall y pwysau o arwain busnes newid sut rydych chi'n ymateb, sut rydych chi'n gwneud penderfyniadau ac a allwch chi ymlacio o gwbl. Yn gorfforol, mae'n tueddu i ymddangos fel cwsg gwael, blino'n haws ac yn y pen draw wedi blino'n lân. Does dim o hynny'n digwydd dros nos. Mae'n adeiladu'n ddigon araf fel ei bod hi'n hawdd ei normaleiddio.

Anaml y mae'n gorffen gydag un person chwaith. Mae timau'n sylwi ar sut mae eu harweinydd yn gwneud, boed hynny wedi ei gydnabod ai peidio. Felly, pan fyddwch chi wedi'ch taenu’n denau, yr argraff yw eich bod chi’n anrhagweladwy ac mae bod yn anrhagweladwy yn erydu ymddiriedaeth. Efallai y byddwch chi'n sylwi mwy o ddiwrnodau salwch, neu'r fersiwn anoddach i'w gweld: pobl yn dod i’r gwaith ond yn rhedeg yn wag oherwydd dyna sy'n edrych fel ymrwymiad yn eich busnes.

Mae yna gost go iawn yma hefyd, nid un ddiwylliannol yn unig. Mae iechyd, cynhyrchiant a pha mor gystadleuol yw eich busnes i gyd yn gysylltiedig â'i gilydd. Mae tîm sy'n rhedeg yn wag, yn y pen draw, yn dangos hynny yn y rhifau, boed hynny'n derfynau amser a fethwyd, trosiant uwch neu benderfyniadau a wnaed yn rhy gyflym oherwydd nad oedd gan neb yr amser meddwl i'w hystyried yn iawn.

Sut i nodi arwyddion diffygiad yn gynnar

Fel arfer dyw diffygiad ddim yn edrych yn ddramatig, ynoch chi nac yn eich tîm. Y bobl sy'n brwydro’n dawel yw eich perfformwyr gorau yn aml, y rhai sy'n ymddangos fel pe bai popeth dan reolaeth ganddyn nhw ac mae hynny'n eich cynnwys chi. Efallai mai chi yw'r un sy'n gwthio galetaf i ymddangos eich bod chi ar ben popeth, hyd nes na allwch chi barhau rhagor.

Mae gwylio sut mae eich pobl chi’n gwneud, nid yn unig yr hyn maen nhw'n ei gyflawni, yn tueddu i ddal problemau yn gynharach. Mae hynny'n golygu eu holi nhw'n rheolaidd. Mae hefyd yn golygu sylwi ar newidiadau: rhywun sydd fel arfer yn siaradus yn mynd yn dawel neu rywun a arferai adael ar amser, yn sydyn bob amser yn dod allan olaf.

Mae'r un peth yn berthnasol i chi. Ydych chi'n cysgu'n wael, yn digio'n fwy nag arfer neu'n ei chael hi'n anoddach ymlacio? Dyna'r un arwyddion rhybudd yr hoffech chi i'ch tîm dynnu sylw atyn nhw, felly mae'n werth gofyn a fyddech chi'n sylwi arnyn nhw ynoch chi'ch hun.

Beth sy'n helpu gyda diffygiad mewn gwirionedd

  • Bod yn gliriach ynghylch disgwyliadau a sut mae gwaith wedi'i drefnu, fel nad yw pobl yn gorfod dyfalu beth sydd ei angen. Mae amwysedd yn flinedig ar ei ben ei hun.
  • Adeiladwch fywyd y tu allan i'r gwaith: amser yn y mynyddoedd, gyda'ch plant, ar y cae neu gyda llyfr. Mae dyddiau soffa a chyfres o DVDs yn cyfrif hefyd. Y nod yw cael rhywbeth nad yw'n fusnes.
  • Diogelwch eich cwsg. Gadewch eich ffôn allan o'r ystafell wely. Mae'n swnio'n beth bach, ond mae'n un o'r ychydig bethau sydd o fewn eich rheolaeth chi’n llwyr.
  • Cadwch bobl o'ch cwmpas chi y gallwch chi ddathlu gyda nhw ac y gallwch chi fod yn onest gyda nhw pan fydd pethau'n anodd. Mae unigedd yn gwneud i bopeth deimlo'n drymach nag ydyw.

Mae'n cymryd mwy o ddisgyblaeth i gynnwys amser adfer nag i ddal i wthio ymlaen, a dyna'n union pam mae cyn lleied o arweinwyr yn ei wneud. Ond mae lles eich tîm yn dechrau ar y pen. Ni ddylid byth ystyried gofalu amdanoch chi'ch hun a'ch pobl yn "rhywbeth braf i'w wneud"; mae'n rhan hanfodol o sut mae busnes yn parhau i berfformio, yn enwedig wrth i chi ehangu ac i'r pwysau gynyddu.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.