Newyddion

Dewch o hyd i gyllid, cymorth a chyfleoedd newydd i'ch busnes

automotive industry

Ymunwch â Llywodraeth Cymru a'r Advanced Propulsion Centre ddydd Iau 19 Tachwedd 2026 yn y Ganolfan Gynadledda Ryngwladol Cymru (ICC Cymru) ar gyfer Sioe Deithiol Cyllid a Chymorth, De Cymru a Gorllewin Lloegr.

Mae’r digwyddiad hwn, wedi'i gynllunio ar gyfer gweithgynhyrchwyr, busnesau’r gadwyn gyflenwi modurol a busnesau sy’n arloesi ym maes symudedd i gael gafael ar gyllid, datgloi cymorth, cyflymu twf a rhwydweithio.

I gael rhagor o wybodaeth ac i sicrhau eich lle, cliciwch ar y ddolen hon ( Saesneg yn unig): South Wales and West of England Automotive Funding Roadshow Tickets, Thursday, November 19  •  9 AM - 3 PM | Eventbrite.

Cynhelir y digwyddiad hwn mewn cydweithrediad ag Awdurdod Cyfun Gorllewin Lloegr a Llywodraeth Cymru, Advanced Propulsion Centre UK a Zenzic. Bydd digwyddiad yn y dyfodol ar gyfer Gogledd Cymru a'r Gogledd Orllewin – dyddiad i'w gadarnhau.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.