
Mae cynigion i drawsnewid y ffordd y mae gwasanaethau bysiau lleol yn cael eu cynllunio a'u darparu ledled Cymru wedi'u cyhoeddi (dydd Llun, 31 Mawrth). Byddant o fudd i deithwyr, cymunedau, ac yn annog mwy o deithio ar fysiau.
Mae Bil newydd wedi'i osod yn y Senedd a fydd, os caiff ei basio, yn rhoi'r pwerau i greu rhwydwaith bysiau sy'n diwallu anghenion teithwyr.
Mae'r cynigion yn cynnwys darparu un rhwydwaith, un amserlen ac un tocyn ledled Cymru, gyda gwasanaethau yn seiliedig ar wybodaeth leol. Mae'r Bil Gwasanaethau Bysiau (Cymru) yn amlinellu sut, drwy Trafnidiaeth Cymru, mewn cydweithrediad agos ag awdurdodau lleol a Chyd-bwyllgorau Corfforaethol, y bydd gwasanaethau bysiau yn cael eu cynllunio a'u cydlynu ar lefel genedlaethol a'u darparu'n bennaf drwy gontractau masnachfraint gan weithredwyr y sector preifat, y trydydd sector a’r sector cyhoeddus.
Bwriedir i'r cyflwyniad ddechrau yn Ne-orllewin Cymru yn 2027, cyn Gogledd Cymru yn 2028, De-ddwyrain Cymru yn 2029 a Chanolbarth Cymru yn 2030.
Am fwy o wybodaeth, dilynwch y ddolen ganlynol: Deddfwriaeth Newydd i Drawsnewid Teithio ar Fysiau Lleol | LLYW.CYMRU