
Mae Deddf Diogelwch Ar-lein 2023 (y Ddeddf) yn amddiffyn plant ac oedolion ar-lein. Mae'n rhoi ystod o ddyletswyddau newydd ar gwmnïau cyfryngau cymdeithasol a gwasanaethau chwilio, gan roi dyletswyddau cyfreithiol arnynt i amddiffyn eu defnyddwyr rhag cynnwys anghyfreithlon a chynnwys sy'n niweidiol i blant.
Mae'r Ddeddf yn rhoi dyletswyddau newydd ar ddarparwyr i weithredu systemau a phrosesau i leihau'r risg bod eu gwasanaethau’n cael eu defnyddio ar gyfer gweithgarwch anghyfreithlon, ac i dynnu cynnwys anghyfreithlon i lawr pan fydd yn ymddangos.
Mae dyletswyddau'r Ddeddf yn berthnasol i wasanaethau chwilio a gwasanaethau sy'n caniatáu i ddefnyddwyr bostio cynnwys ar-lein neu i ryngweithio â'i gilydd. Mae hyn yn cynnwys ystod o wefannau, apiau a gwasanaethau eraill, gan gynnwys gwasanaethau cyfryngau cymdeithasol, safleoedd cwmwl ar gyfer storio a rhannu ffeiliau defnyddwyr, llwyfannau rhannu fideos, fforymau ar-lein, gwasanaethau detio, a gwasanaethau negeseua gwib ar-lein.
O 25 Gorffennaf 2025, mae gan lwyfannau ddyletswydd gyfreithiol i amddiffyn plant ar-lein.
Mae esboniad llawn o sut mae'r Ddeddf yn gweithio, a sut mae'n amddiffyn gwahanol grwpiau ar gael ar yr Online Safety Act: explainer.
Mae'r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i Ofcom ddatblygu canllawiau a chodau ymarfer a fydd yn nodi sut y gall llwyfannau ar-lein gyflawni eu dyletswyddau. Mae'r wybodaeth hon yn helpu busnesau, rhieni a'r cyhoedd i ddeall gofynion ac amserlen weithredu'r Ddeddf. Mae Ofcom hefyd wedi creu canllaw i rieni.
Dysgwch fwy am Ddiogelwch Ar-lein ar GOV.UK
Aros yn ddiogel ar-lein dros wyliau'r haf
Adnoddau i helpu plant a phobl ifanc i aros yn ddiogel wrth ddefnyddio sgyrsiau grŵp ac apiau negeseua: Aros yn ddiogel ar-lein dros wyliau'r haf - Hwb