
Mae Deddf Data (Defnydd a Mynediad) 2025 bellach wedi cael Cydsyniad Brenhinol. Mae'r ddeddfwriaeth newydd hon yn diweddaru agweddau allweddol ar gyfraith diogelu data, gan ei gwneud hi'n haws i fusnesau yn y DU ddiogelu gwybodaeth bersonol pobl wrth dyfu ac arloesi eu nwyddau a'u gwasanaethau.
Mae'r Ddeddf yn diwygio, ond nid yw'n disodli, Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR), Deddf Diogelu Data 2018 a'r Rheoliadau Preifatrwydd a Chyfathrebu Electronig (PECR).
Bydd y newidiadau'n cael eu cyflwyno'n raddol rhwng Mehefin 2025 a Mehefin 2026.
Mae Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth wedi cyhoeddi gwybodaeth i gefnogi sefydliadau a'r cyhoedd wrth i'r newidiadau hyn gael eu cyflwyno.
Mae hyn yn cynnwys
- Amlinelliad o'r hyn y mae'r Ddeddf yn ei olygu i sefydliadau.
- Amlinelliad o'r hyn y mae'r Ddeddf yn ei olygu i asiantaethau gorfodi'r gyfraith.
- Crynodeb manwl o'r newidiadau ar gyfer arbenigwyr diogelu data.
- Ein tudalen we â chanllawiau newydd a chanllawiau sydd ar y gweill yn nodi pa ganllawiau i'w disgwyl a phryd
- Amlinelliad o sut y byddwn yn parhau â'n gwaith rheoleiddio wrth i'r Ddeddf gael ei gweithredu.
- Canllaw i'r cyhoedd ar sut y bydd y Ddeddf yn effeithio arnynt.
Am fwy o wybodaeth, dilynwch y ddolen hon: UK organisations stand to benefit from new data protection laws | ICO