
Mae twristiaeth a lletygarwch wedi cael eu canmol fel "enaid economi Cymru" sy'n creu swyddi ac yn gyrru twf.
Wrth fynychu Uwchgynhadledd Twristiaeth Genedlaethol Llywodraeth Cymru yn Venue Cymru yn Llandudno ddoe (dydd Iau, 27 Mawrth 2025), dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, Rebecca Evans, ei bod yn gwerthfawrogi gwybodaeth y sector ac eisiau dysgu o flynyddoedd o brofiad y rhai fu'n bresennol ar y rheng flaen.
Roedd y digwyddiad, a groesawodd westeion o Gymru, ledled y DU ac Ewrop, yn cynnig cyfle i archwilio cyfleoedd i ddiwydiant sy'n pwmpio £3.8 biliwn i economi Cymru bob blwyddyn.
Mae gan Gymru lawer iawn i'w gynnig i ymwelwyr rhyngwladol sy'n chwilio am wyliau, o drefi hanesyddol a threftadaeth i arfordiroedd a harbyrau â golygfeydd trawiadol.
Mae cefnogaeth Llywodraeth Cymru i'r sector dros y flwyddyn ariannol nesaf yn cynnwys:
- Croeso Cymru: Cyllideb refeniw o £9 miliwn a chyllideb gyfalaf o £6 miliwn
- Cronfa Buddsoddi mewn Twristiaeth Cymru sy’n werth £50 miliwn
- Cronfa Y Pethau Pwysig gwerth £5 miliwn
Am fwy o wybodaeth, dilynwch y ddolen ganlynol: Dathlu y Gorau o Gymru yn yr Uwchgynhadledd a'r Gwobrau Twristiaeth Genedlaethol | LLYW.CYMRU
Mae twristiaeth yn fusnes mawr yng Nghymru. Gall bod yn berchen ar eich busnes twristiaeth eich hun a'i redeg fod yn brofiad gwerth chweil.
Waeth a ydych chi’n ystyried dechrau busnes twristiaeth newydd, eich bod eisoes wedi cymryd y camau cyntaf neu’n awyddus i dyfu eich busnes presennol, gallwn helpu gyda chyllid ar gyfer prosiectau newydd neu brosiectau sy'n bodoli eisoes, cynlluniau gradd sêr ar gyfer ansawdd llety ac atyniadau i dwristiaid, a gallwn helpu i hyrwyddo’ch busnes. Rydych chi yn y lle iawn ar gyfer cymorth busnes wedi'i deilwra ar gyfer busnesau twristiaeth: Twristiaeth | Busnes Cymru