
Mae llywodraethau’r DU a Chymru wedi cadarnhau bod £11.8 miliwn o gyllid wedi’i ryddhau i Ganolbarth Cymru fel rhan o becyn buddsoddi i roi hwb i economi’r rhanbarth.
Daeth y cyhoeddiad wrth i Weinidogion fynd ar daith yr wythnos hon i weld y prosiect cyntaf i gael cefnogaeth Bargen Twf Canolbarth Cymru, sy’n cael ei chefnogi gan y ddwy lywodraeth er mwyn denu mwy o fuddsoddi oddi wrth y sectorau cyhoeddus a phreifat.
Roedd yr ymweliad â datblygiad Llynnoedd Cwm Elan – sy’n ceisio gosod meincnod newydd ar gyfer twristiaeth gynaliadwy – yn gam mawr ymlaen i’r Fargen Dwf wrth i brosiectau ddechrau mynd yn eu blaen o’r cam cynllunio i’r cam cyflawni.
Bydd y pecyn gwaith cyntaf yn hybu profiad ymwelwyr, yn cynyddu refeniw yn lleol ac yn cynnal harddwch naturiol a bioamrywiaeth Cwm Elan. Bydd y pwyslais ar ddau faes allweddol:
- Ehangu’r Goedwig Law Geltaidd – Cysylltu ac adfer 117 hectar o goetiroedd tameidiog fel rhan o Goedwig Genedlaethol Cymru.
- Dylunio’r Ganolfan Ymwelwyr – Rhoi cychwyn ar y dyluniadau ar gyfer yr ailddatblygu er mwyn hybu profiad ymwelwyr ac integreiddio addysg amgylcheddol ac arferion cynaliadwy.
Rhagwelir y bydd y cam cyntaf ar ei ben ei hun yn dod â budd economaidd blynyddol o £4 miliwn ac y bydd y prosiect yn cyfrannu £17 miliwn i'r economi ranbarthol erbyn 2040.
Am fwy o wybodaeth, dilynwch y ddolen ganlynol: Datgloi £11.8 miliwn yn rhagor ar gyfer Bargen Twf Canolbarth Cymru wrth i’r prosiect cyntaf ddwyn siâp | LLYW.CYMRU