Mae'r cam cyntaf tuag at strategaeth Ddiwylliant a Chwaraeon newydd, a fydd yn seiliedig ar gamau gweithredu go iawn i wireddu gweledigaeth Cymru fel pwerdy diwylliant a chwaraeon, yn dechrau heddiw.
Mae Datgloi Potensial Cymru yn alwad am dystiolaeth i lywio strategaeth ddiwylliant a chwaraeon newydd, gyda'r nod nad yw'r rhain yn cael eu hystyried fel pethau dewisol ond yn hytrach yn rhan hanfodol o fywyd cenedlaethol. Gyda Chymru yn dod yn wlad lle mae creadigrwydd, cyfranogiad a rhagoriaeth yn hawl sylfaenol i bawb.
Am y tro cyntaf, bydd y strategaeth ddiwylliant yn cynnwys chwaraeon a'r diwydiannau creadigol, gyda chamau mesuradwy ar gyfer pob sector.
Bydd y cam cyntaf hwn yn dechrau gyda thrafodaeth banel yn yr Eisteddfod Genedlaethol, gyda digwyddiadau ymgysylltu wedi'u cynllunio ledled Cymru a gyda sectorau unigol ar bob lefel dros y misoedd nesaf.
Bydd yr Alwad am Dystiolaeth yn rhedeg tan 18 Rhagfyr 2026.
I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol: Datgloi Potensial Cymru - creu pwerdy Diwylliant a Chwaraeon | LLYW.CYMRU.