
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi Trosolwg o'r strategaeth, y polisi a'r cyllid ar gyfer datgarboneiddio busnes yng Nghymru.
Bydd datgarboneiddio’r sector busnes yng Nghymru yn cael ei gyflawni gan fentrau ar draws Llywodraeth Cymru, partneriaid yn y sector cyhoeddus a’r sector busnes. Mae yna lawer o ffyrdd y gellir lleihau effeithiau carbon busnesau i greu llwybrau posibl i ddatgarboneiddio. Mae dilyn y llwybrau hyn hefyd yn rhoi’r cyfleoedd a ddaw yn sgil bod yn rhan o’r newid i economi carbon isel i fusnesau bach a chanolig ar draws cadwyni cyflenwi.
I gael rhagor o wybodaeth ac i ddarllen y canllawiau dewiswch y ddolen ganlynol: Datgarboneiddio busnesau: llyfryn | LLYW.CYMRU