Newyddion

Datganiad Ysgrifenedig: Penodi Sefydliad Rheoli Ernes ar gyfer Cynllun Dychwelyd Ernes Cymru

plastic bottle in a deposit return scheme machine

Llŷr Gruffydd MS, Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd.

“Rwy’n falch o gyhoeddi penodiad Exchange for Change fel y Sefydliad Rheoli Ernesau ar gyfer Cynllun Dychwelyd Ernes (CDE) cynwysyddion diodydd yng Nghymru. Bydd y Cynllun yn cynnwys cynwysyddion diodydd plastig (PET), metel a gwydr o’r diwrnod cyntaf. Fodd bynnag, yn unol â Rheoliadau Cynllun Dychwelyd Ernesau Cynwysyddion Diodydd (Cymru) 2026, bydd trefniadau pontio yn weithredol ar gyfer cynwysyddion diodydd gwydr am gyfnod o bedair blynedd. Yn ystod y cyfnod hwn, byddant wedi’u heithrio rhag gofynion labelu a bydd ernes o sero ceiniog yn gymwys iddynt.

Mae’r penodiad yn dilyn proses cadarn i nodi Sefydliad Rheoli Ernesau a fydd yn cefnogi sefydlu’r cynllun ac yn gweithio mewn partneriaeth â chynhyrchwyr, manwerthwyr, awdurdodau lleol a phartneriaid eraill i weithredu’r CDE llwyddiannus yng Nghymru. 

Drwy roi blaendal ar gynwysyddion diodydd, sy’n cael ei had-dalu pan fydd y cynwysyddion yn cael eu dychwelyd, bydd y cynllun yn mynd i’r afael â sbwriel tra’n cefnogi’r gwaith o gasglu deunyddiau ailgylchadwy o ansawdd uchel. Bydd y CDE yn helpu i ddarparu sylfaen i ehangu’r defnydd o gynwysyddion diodydd y gellir eu hailddefnyddio yng Nghymru…”

I ddarllen y datganiad llawn dewiswch y ddolen ganlynol: Datganiad Ysgrifenedig: Penodi Sefydliad Rheoli Ernes ar gyfer Cynllun Dychwelyd Ernes Cymru (20 Awst 2026) | LLYW.CYMRU.

Mae’r Addewid Twf Gwyrdd yn helpu busnesau Cymru i gymryd camau gweithredol tuag at wella eu cynaliadwyedd, cymryd rhan!


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.