Newyddion

Datganiad Ysgrifenedig: Mynediad at arian parod mewn cymunedau

Houses in St David's Pembrokeshire

Jane Hutt AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip

“Mae cau canghennau banciau yn parhau i effeithio ar gymunedau ledled Cymru, ac mae adroddiadau am hyn yn ymddangos yn rheolaidd yn y cyfryngau, fel arfer yn sôn am bryderon am yr effaith ar fynediad at arian parod a'r cyfyngu ar wasanaethau bancio wyneb yn wyneb.

Er bod yr ystadegau yn dangos rhywfaint o alw newydd am arian parod, yn enwedig ymhlith y rhai sy'n defnyddio arian parod i'w helpu i gadw llygad ar eu cyllideb, mae'r duedd gyffredinol tuag i lawr. Fodd bynnag, mae'n hanfodol ein bod yn diogelu mynediad at arian parod ledled Cymru, gan sicrhau bod gwasanaethau yn gynhwysol. 

Er nad yw 'gwasanaethau ariannol' yn fater a ddatganolwyd, ac mai cyfrifoldeb Llywodraeth y DU ydynt, mae cynhwysiant ariannol yn flaenoriaeth allweddol i Lywodraeth Cymru. 

Rwy'n falch bod Llywodraeth y DU wedi addo sefydlu o leiaf 350 o ganolfannau bancio ledled y DU. Mae'r rhwydwaith hwn o ganolfannau yng Nghymru yn parhau i ehangu - mae deuddeg canolfan fancio a rennir ar agor yng Nghymru bellach, a thair arall yn y broses o gael eu sefydlu yng Nghas-gwent, Gorseinon a Chaergybi. Mae'r canolfannau bancio hyn yn achubiaeth i gymunedau lleol sydd wedi colli eu cangen fanc olaf.

Mae'r ganolfan sydd eisoes yn gweithredu ym Mhorthcawl ymhlith y prysuraf yn y DU. Mae'r ganolfan yn Nhreorci hefyd yn unigryw yng Nghymru gan ei bod wedi'i lleoli mewn archfarchnad yn hytrach na swyddfa bost neu adeilad annibynnol. Mae cynllun peilot hefyd yn cael ei dreialu yng nghanolfan Treorci yn sgil cyflwyno Swyddog Cyswllt â Chwsmeriaid, sy'n darparu cymorth cyffredinol ac yn cyfeirio cwsmeriaid i'r man iawn. Mae'n lle diogel i gwsmeriaid gysylltu â'u banc, naill ai drwy'r Banciwr Cymunedol neu dros y ffôn….”

I ddarllen y cyhoeddiad ewch i wefan Llyw.Cymru


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.