Mark Hooper AS, Dirprwy Weinidog Trafnidiaeth
Rwy'n cydnabod bod y cynllun i gau rhannau o Brif Linell Gogledd Cymru ym mis Ionawr 2027 yn achosi pryder i deithwyr. Bydd cau’r rhannau hyn yn achosi anghyfleustra i deithwyr, busnesau a chymunedau ledled Gogledd Cymru. Rwy'n gwerthfawrogi ac yn deall y rhwystredigaeth y bydd hyn yn ei achosi i'r rhai sy'n dibynnu ar y rheilffordd a'r pryderon dilys am yr effaith ar deithiau pan fydd rhannau o’r rheilffordd ar gau.
Mae Prif Linell Gogledd Cymru yn eiddo i Network Rail a chaiff ei gweithredu ganddo. Mae ganddo'r dasg heriol o gynnal a chadw'r llinell i sicrhau ei bod yn ddiogel ac yn gweithio ar gyfer gwasanaethau teithwyr a chludo nwyddau. Mae wedi penderfynu bod y gwaith hwn yn angenrheidiol i gynnal diogelwch, dibynadwyedd a gwydnwch hirdymor y rheilffordd ac mai'r dull mwyaf effeithlon ac a fydd yn achosi cyn lleied o anghyfleustra â phosib yn gyffredinol yw cau'r llinell am y rhan fwyaf o'r amser tra bo’r gwaith yn mynd rhagddo.
Bydd y rhaglen hon sy'n bedair wythnos o hyd yn cael ei chynnal rhwng 9 Ionawr 2027 a 6 Chwefror 2027. Am y tair wythnos gyntaf, bydd y rheilffordd ar gau rhwng Caer a Chaergybi, gan gynnwys rheilffordd Dyffryn Conwy a Chyffordd Llandudno i Landudno. Yn ystod y bedwaredd wythnos, dim ond rhwng Cyffordd Llandudno a Chaergybi fydd ar gau.
Bydd gwasanaethau yn lle trenau yn gweithredu trwy gydol y cyfnod.
I ddarllen y datganiad llawn, dewiswch y ddolen ganlynol: Datganiad Ysgrifenedig: Gwaith Peirianneg ar Reilffordd Prif Linell Gogledd Cymru (22 Hydref 2026) | LLYW.CYMRU.