
Rebecca Evans, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio:
Mae entrepreneuriaid benywaidd heddiw yn creu gwell yfory i bawb. Ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod eleni, rwy'n falch o ddathlu a chydnabod eu cyfraniad ac ailddatgan ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gefnogi a grymuso entrepreneuriaid benywaidd a pherchnogion busnes yng Nghymru.
Mae Llywodraeth Cymru yn croesawu cyfraniad menywod mewn busnes ac mae wedi ymrwymo'n llwyr i annog mwy o entrepreneuriaid benywaidd i ddechrau, cynnal a datblygu eu busnesau eu hunain yng Nghymru. Mae llwyddiant entrepreneuriaid benywaidd nid yn unig yn fuddugoliaeth iddynt yn bersonol, ond i'w cymuned gyfan. Mae'n gylch pwerus lle mae llwyddiant un person yn helpu i greu effaith ehangach, gan godi eraill ar hyd y ffordd. Trwy feithrin amgylchedd lle gall entrepreneuriaid benywaidd ffynnu, rydym yn buddsoddi nid yn unig yn eu dyfodol ond yn nyfodol cenedlaethau.
Yr wythnos hon, cefais y pleser o ymweld â Deploy Tech ym Mhontyclun lle cwrddais â'r cyd-sylfaenydd busnes ysbrydoledig a'r Prif Swyddog Technoleg Beren Kayali. Mae Deploy Tech yn cynhyrchu ac yn gwerthu tanciau storio dŵr y gellir eu cludo yn yr awyr yn fflat ac yna eu hadeiladu yn y fan a'r lle. Gwnaeth llwyddiannau'r entrepreneur ac effaith economaidd a chymdeithasol y busnes argraff arnaf. Mae'n bosibl defnyddio'r unedau mewn amrywiol ffyrdd o gasglu dŵr glaw i ddarparu cyflenwad dŵr glân a sefydlog i ardaloedd sydd wedi dioddef trychinebau, yn ogystal â bwydo da byw mewn ardaloedd sy'n anodd eu rheoli. Mae Beren wedi bod yn ganolog i sefydlu a llwyddiant y cwmni hyd yma ac mae wedi ymddangos ar Restr Ewropeaidd Forbes 30 Dan 30, rhestr Arloesi 30 UNICEF ac enillodd Wobr Arloesi Menyw Fusnes y Flwyddyn Vodafone 2024.
Cefais y fraint hefyd o gynnal bwrdd crwn yr wythnos hon gyda pherchnogion busnesau benywaidd, lle roeddent yn rhannu eu teithiau personol gydag entrepreneuriaeth. O'r trafodaethau hyn, gwnaethom ymchwilio i'r cyfleoedd a'r heriau sy'n eu hwynebu. Amlygodd y sgwrs y rôl hanfodol y mae entrepreneuriaid benywaidd yn ei chwarae wrth sbarduno twf economaidd, meithrin arloesedd, a hyrwyddo cydraddoldeb, i gyd wrth sicrhau gweithlu amrywiol a chynhwysol. Roedd hefyd yn amlwg, pan fydd menywod yn llwyddo yn y gweithlu, bod economïau'n tyfu, bod teuluoedd yn ffynnu, a chymunedau'n dod yn fwy cyfartal.
Mae ymchwil yn dweud wrthym fod busnesau sy'n cael eu harwain gan fenywod yn ganran fechan o fentrau twf uchel yn y DU, sy'n golygu nad ydym yn gwneud y mwyaf o'r cyfleoedd. Er mwyn mynd i'r afael â hyn, mae'n rhaid i ni barhau i wella prif ysgogwyr twf busnes, megis mynediad at gyllid, yn enwedig ecwiti, grantiau arloesi a marchnadoedd newydd trwy gyfleoedd allforio. Mae grymuso menywod yn economaidd yn cynnig cyfleoedd a dewisiadau i fenywod, ac mae'r gallu i fenywod ddechrau, datblygu a chynnal busnesau llwyddiannus yn chwarae rhan ganolog yn y broses hon. Rwyf wedi ymrwymo i gefnogi entrepreneuriaid benywaidd ar eu taith, i ryddhau'r cyfleoedd hyn.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau twf busnes mewn ffordd gynhwysol. Mae Busnes Cymru yn darparu mynediad at gyngor busnes, cyfleoedd i gyrraedd cadwyni cyflenwi, a rheolwyr perthynas profiadol a all helpu i lywio'r ecosystem a chefnogi eu taith ynghyd â mentoriaid a modelau rôl positif i weithio ochr yn ochr â hwy fel perchnogion busnes.
Mae Busnes Cymru hefyd yn cynnig cyngor a chymorth ar bolisïau ac arferion cyflogaeth, gwaith teg, cydraddoldeb ac amrywiaeth. Mae cydraddoldeb ac amrywiaeth yn rhan allweddol o drafodaethau gyda chleientiaid ac mae'n cynnwys gwybodaeth fel yr Addewid Cydraddoldeb, hawliau gweithio hyblyg a dyletswyddau. Rydym yn annog pob busnes i fabwysiadu'r Addewid Cydraddoldeb sy'n darparu ffordd ymarferol i fusnesau wella eu perfformiad cydraddoldeb yn y ffordd y maent yn arwain eu busnes a'r gwasanaethau y maent yn eu darparu....
I ddarllen y datganiad llawn dewiswch y ddolen ganlynol: Datganiad Ysgrifenedig: Entrepreneuriaeth Menywod (6 Mawrth 2025) | LLYW.CYMRU
Mae Llywodraeth Cymru'n cydnabod ac yn cefnogi pwysigrwydd a chyfraniad entrepreneuriaid sy'n fenywod at economi Cymru: Cefnogi Merched yng Nghymru | Busnes Cymru