Newyddion

Datganiad Ysgrifenedig: Digwyddiadau Mawr – EURO 2028

Euro 2025 - Welsh fans in Switzerland

Rebecca Evans, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio

Gyda llai na 1000 o ddiwrnodau i fynd tan i'r twrnamaint gychwyn ar 9 Mehefin 2028, pleser yw cadarnhau ymrwymiad Cymru i gynnal Pencampwriaeth Ewrop UEFA yn 2028, ochr yn ochr â'n partneriaid yn y DU ac Iwerddon. Mae hwn yn gyfle unwaith mewn cenhedlaeth i arddangos Cymru yn fyd-eang a chynnig manteision parhaol i'n cymunedau.

Bydd Llywodraeth Cymru yn buddsoddi hyd at £30 miliwn i gefnogi'r gwaith o gyflawni'r twrnamaint yn llwyddiannus. Mae'r cyllid hwn yn sail i'n huchelgais i wneud y mwyaf o effaith gymdeithasol ac economaidd EURO 2028 ledled Cymru. Mae'r dadansoddiad diweddaraf yn dangos bod disgwyl i'r twrnamaint gynhyrchu £3.6 biliwn mewn buddion economaidd-gymdeithasol i'r DU ac Iwerddon, sef cynnydd sylweddol o amcangyfrifon cynharach. Rydym yn rhagweld y bydd Cymru yn cael cyfran o hyd at £250 miliwn o ganlyniad i'r cyfleoedd hyn.

I ddarllen y datganiad llawn dilynwch y ddolen ganlynol: Datganiad Ysgrifenedig: Datganiad Ysgrifenedig: Digwyddiadau Mawr – EURO 2028 (13 Tachwedd 2025) | LLYW.CYMRU.
 

 

Credyd: © Crown Copyright.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.