
Rebecca Evans AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio
Ym mis Mehefin, cyhoeddais y byddai Llywodraeth Cymru yn sefydlu Swyddfa Deallusrwydd Artiffisial (AI) i gryfhau ein gallu mewnol, i hwyluso'r broses o lunio polisïau gwybodus ac i gefnogi cydweithio ystyrlon â rhanddeiliaid ledled Cymru. Cyhoeddais hefyd y bydd Grŵp Cynghori ar AI Strategol yn cael ei sefydlu i roi cyngor arbenigol i Weinidogion ar fabwysiadu AI ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru.
Bydd y Grŵp Cynghori ar AI Strategol yn cyfarfod am yr eildro yn ddiweddarach y mis hwn i drafod sgiliau a blaenoriaethau AI Cymru. Ochr yn ochr â hyn, fel rhan o raglen waith y Swyddfa AI, rwyf wedi neilltuo cyllid i gyfres o fentrau cyffrous sy'n cefnogi gweithredu AI yn gyfrifol ar draws gwasanaethau cyhoeddus Cymru.
Bydd y cyllid yn helpu i gyflawni'r prosiectau yn gyflym ac yn sefydlu sylfaen gadarn ar gyfer gweithgarwch AI yn y dyfodol. Yr amcan cyffredinol yw dangos yn glir y manteision ymarferol y gall AI eu cynnig wrth wella darpariaeth gwasanaethau cyhoeddus ledled Cymru. Bydd pob prosiect yn llunio adroddiad ar y gwersi a ddysgwyd ac yn rhannu arferion gorau ag eraill ar draws sector cyhoeddus Cymru.
I ddarllen y datganiad llawn dilynwch y ddolen ganlynol: Datganiad Ysgrifenedig: Deallusrwydd Artiffisial a Thrawsnewid Digidol yng Ngwasanaethau Cyhoeddus Cymru (18 Medi 2025) | LLYW.CYMRU