Newyddion

Datganiad Ysgrifenedig: Cytundeb Cyllideb

Welsh Government logo

Mae Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru wedi cyrraedd cytundeb a fydd yn caniatáu i’r gyllideb ar gyfer 2026-27 gael ei phasio ac yn sicrhau bron i £300 miliwn o fuddsoddiad ychwanegol mewn gwasanaethau cyhoeddus Cymru. 

Mae tri elfen i’r cytundeb: 

  • Cyllid ychwanegol i lywodraeth leol yn 2026-27 – £112.8 miliwn yn ychwanegol, sy’n darparu cynnydd cyffredinol o 4.5% i setliad llywodraeth leol. Bydd pob cyngor yn derbyn cynnydd dros 4%.
  • Cyllid ychwanegol i’r gyllideb iechyd a gofal cymdeithasol – £180 miliwn yn ychwanegol, sydd, ynghyd â’r cyllid yn y Gyllideb Ddrafft, yn cyfateb i gynnydd o 3.6% yn 2026-27.
  • Bydd £120 miliwn o gyllid cyfalaf ar gael i’r llywodraeth nesaf ar ôl etholiad y Senedd i’w ddyrannu.

Bydd y cytundeb yn cael ei adlewyrchu yn y Gyllideb Derfynol, ynghyd â dyraniadau eraill gan Lywodraeth Cymru, nad ydynt yn rhan o’r cytundeb, a gyhoeddir ar 20 Ionawr 2026.

Am fwy o wybodaeth, dilynwch y ddolen hon: Datganiad Ysgrifenedig: Cytundeb Cyllideb (9 Rhagfyr 2025) | LLYW.CYMRU.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.