Jane Hutt AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip
Mae polisi Cenedl Noddfa Cymru yn ymwneud â rheoli'n gyfrifol y cyfleoedd a ddaw i Gymru yn sgil mudo, a gwneud y gorau o'r cyfleoedd hynny. Dros dymor y Senedd hon, mae ein dull gweithredu wedi darparu cefnogaeth gyson, ymarferol i bobl sydd wedi'u lleoli yng Nghymru ac sy'n chwilio am noddfa, gan eu helpu i ailadeiladu eu bywydau a chyfrannu at lesiant Cymru. Dim ond tua 0.05% o gyllideb gyffredinol Llywodraeth Cymru sy'n mynd tuag at gyflawni dull gweithredu Cenedl Noddfa. Fodd bynnag, mae effaith hynny ar draws trefniadau integreiddio, cydlyniant cymunedol a llesiant pobl yn glir.
Mae'n bwysig egluro'r hyn y mae'r dull gweithredu Cenedl Noddfa yn ei wneud - a'r hyn nad yw'n ei wneud. Nid yw'n penderfynu pwy sy'n dod i'r DU; Llywodraeth y DU sy'n llwyr gyfrifol am benderfyniadau ynghylch mewnfudo a lloches. Ein rôl yng Nghymru yw siapio profiad pobl ar ôl iddynt gyrraedd, gan sicrhau eu bod yn gallu manteisio ar wasanaethau prif ffrwd o'r diwrnod cyntaf, yn gallu cael gafael ar wybodaeth gywir, ac yn gallu ailadeiladu eu bywydau ag urddas.
Rhan greiddiol o'r cymorth cynnar hwn yw atal niwed, gan gynnwys osgoi digartrefedd, a sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael y diogelwch a'r sefydlogrwydd sydd eu hangen arnynt o'r cychwyn cyntaf.
Oherwydd y ffordd yr awn ati, mae pobl sy'n chwilio am noddfa yn gallu cyfrannu eu sgiliau a chyfrannu at fywyd cymunedol a, phan fo ganddynt yr hawl i weithio, maent yn gallu ymgymryd â chyflogaeth sy'n cryfhau gwasanaethau cyhoeddus Cymru, yn llenwi bylchau hollbwysig yn y gweithlu ac yn cefnogi busnesau lleol. I'r rhai nad ydynt eto wedi cael caniatâd i weithio, mae gwirfoddoli a datblygu sgiliau yn eu galluogi i gyfrannu at eu cymunedau a pharatoi ar gyfer cyflogaeth yn y dyfodol ar ôl iddynt ennill yr hawl i weithio.
I ddarllen y datganiad llawn dewiswch y ddolen ganlynol: Datganiad Ysgrifenedig: Cenedl Noddfa: Dull Cymru o gefnogi Pobl sy'n Ceisio Noddfa (9 Chwefror 2026) | LLYW.CYMRU.