Newyddion

Datganiad Polisi Caffael Cymru drafft

online survey

Mae Llywodraeth Cymru yn ceisio barn ar Ddatganiad Polisi Caffael drafft Cymru (DPCC) a'r asesiad effaith integredig drafft (IIA).

Mae’r ymgynghoriad hwn yn gyfle pwysig i fusnesau gyflwyno sylwadau ar y cyfeiriad strategol ar gyfer caffael cyhoeddus yng Nghymru. Mae caffael cyhoeddus yng Nghymru yn cyfrif am fwy nag £11 biliwn o wariant bob blwyddyn ac yn chwarae rôl bwysig o ran cyflawni canlyniadau economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol ehangach. Mae'r DPCC drafft yn ceisio sicrhau bod caffael cyhoeddus yn cefnogi blaenoriaethau Llywodraeth Cymru, gan gynnwys y rhai a nodir yn y Rhaglen Lywodraethu, gan helpu i gynyddu hyd yr eithaf ar y gwerth a gynhyrchir drwy wariant cyhoeddus yng Nghymru. 

Mae'r ymgynghoriad hwn yn ceisio barn, nid yn unig ar y flaenoriaeth arfaethedig, ond hefyd ar y canlyniadau bwriadedig, yr ysgogiadau caffael a'r fframwaith cyflawni a nodir yn y DPCC drafft. Mae Llywodraeth Cymru eisiau gwybod a yw'r cynigion hyn yn glir, yn ymarferol ac yn gallu darparu mwy o werth i Gymru.

Os hoffech gyfrannu at yr ymgynghoriad, dylid cyflwyno eich ymateb drwy lenwi’r ffurflen ar-lein. Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ymatebion yw 23:45 ar 28 Ionawr 2027.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.