Mae’r Canghellor John Healey wedi cyflwyno ei ddatganiad ar Gyllideb yr Hydref heddiw.
Dyma rai o’r prif bwyntiau:
- Ymestyn y toriad o 5c yn y dreth ar danwydd a pharhau i rewi’r dreth, gan hefyd barhau â’r cyfnod o eithrio Cerbydau Nwyddau Trwm (HGV) rhag talu treth ffordd, tan 1 Gorffennaf 2027.
- Cynyddu cyfraddau’r Cyflog Byw Cenedlaethol a’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol 3.9%.
- Ehangu tâl rhieni, gan gynnwys tadau a phartneriaid hunangyflogedig am y tro cyntaf.
- Gweithredu Cynllun Cystadleurwydd Diwydiannol Prydain, sy’n golygu y bydd 10,000 o gwmnïau gweithgynhyrchu sy’n defnyddio llawer o ynni yn cael gostyngiad o 20-25% ar eu trydan, gan ddechrau ym mis Ebrill 2027, gan gynnwys taliad ôl-weithredol ar gyfer 2026-27.
- Cynyddu’r cyfraddau milltiredd di-dreth i’r rhai sy’n dibynnu ar eu cerbyd eu hunain ar gyfer gwaith.
I gael rhagor o wybodaeth, dewiswch y ddolen ganlynol: Budget 2026 document - GOV.UK.