
Mae Cymru yn lansio ei Strategaeth Ddiwydiannol ar gyfer Pren gyntaf i fanteisio ar y galw cynyddol byd-eang am bren, y disgwylir iddo fod bedair gwaith yn fwy erbyn 2050.
Bydd y Dirprwy Brif Weinidog Huw Irranca-Davies yn lansio 'Gwneud i Bren Weithio i Gymru' yn y Sioe Frenhinol [ddydd Mawrth 22 Gorffennaf 2025].
Mae'r strategaeth newydd yn golygu blynyddoedd o gydweithio â sector pren Cymru ac mae'n dilyn ymgynghoriad cyhoeddus helaeth.
Ei nod yw cynyddu nifer a gwerth y pren a dyfir a chynhyrchion pren a gynhyrchir ledled Cymru. Bydd mwy o ddefnydd o bren mewn adeiladu yn sicrhau dyfodol y diwydiant coedwigaeth, gan gefnogi buddsoddiad newydd, swyddi a gwell canlyniadau carbon.
Mae recriwtio gweithwyr medrus yn dod yn fwyfwy pwysig wrth i'r diwydiant ehangu. Bydd y strategaeth yn gwella cyfathrebu â phobl ifanc am yrfaoedd coedwigaeth yng Nghymru, gan weithio gyda Gyrfa Cymru a sefydliadau fel y Gymdeithas Goedwigaeth Frenhinol.
Am ragor o wybodaeth ewch i Datblygu'r Diwydiant Pren yng Nghymru | LLYW.CYMRU