Daeth y Cytundeb Masnach Rydd (FTA) rhwng y DU ac India a elwir yn ffurfiol yn Gytundeb Economaidd a Masnachu Cynhwysfawr (CETA) i rym ar 15 Gorffennaf 2026.
Gwerth cyfanswm masnach y DU ac India yn 2025 oedd £48 biliwn. Bydd busnesau yn y ddwy wlad yn elwa o fynediad gwell i'r farchnad, tariffau is, tollau symlach a chefnogaeth gryfach i fasnach ddigidol, gan wneud masnach o ddydd i ddydd yn fwy rhagweladwy ac yn arbennig o fuddiol i fentrau bach a chanolig (BBaChau).
Bydd y Cytundeb Masnach Rydd rhwng y DU ac India yn cynnig manteision ymarferol gan gynnwys:
- tariffau is
- tollau symlach
- ymrwymiadau masnach ddigidol cryfach
- rheolau cliriach i fusnesau sy'n gweithredu ar draws y ddwy farchnad
Er mwyn cael mynediad at gyfraddau tariff ffafriol, rhaid i fusnesau yn y DU gwblhau cofrestru un-tro gyda CThEF drwy'r porth Cofrestru Tarddiad cyn gynted â phosibl.
Mae'r Adran Busnes a Masnach hefyd wedi cyhoeddi ystod o ganllawiau polisi a sector ymarferol i helpu busnesau i ddeall y cyfleoedd sydd ar gael o dan y cytundeb, gan gynnwys tariffau, rheolau tarddiad, prosesau caffael y llywodraeth a chyfleoedd sector-benodol: Historic UK-India Free Trade Agreement is now in effect - GOV.UK.
Os ydych chi'n newydd i allforio neu'n edrych ar farchnadoedd newydd, mae rhai pethau allweddol y bydd angen i chi wybod, edrychwch ar Busnes Cymru Allforio i ddarganfod mwy.