
Mae Llywodraeth Cymru wedi llofnodi cytundeb gyda'r Swyddfa Eiddo Deallusol (IPO) i gefnogi busnesau ac i sbarduno mwy o fuddsoddiad mewn creadigrwydd ac arloesedd.
Mae'r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth (MOU) yn cydnabod pwysigrwydd rheoli asedau ac eiddo deallusol (IP) yn effeithiol ar gyfer ysgogi twf yr economi.
Mae'n gosod y sylfeini i'r ddau sefydliad weithio'n agosach â'i gilydd i roi cymorth ac arweiniad gydag IP i fusnesau arloesol yng Nghymru. Daw hyn â manteision cymdeithasol ac economaidd i bobl ledled Cymru.
Mae'r cytundeb yn rhan o weledigaeth Llywodraeth Cymru i greu a meithrin diwylliant arloesi bywiog i greu Cymru gryfach, decach a gwyrddach yn unol â'i strategaeth Cymru'n Arloesi.
Mae'r busnes o Bowys, Stashed Products – sy'n allforio storfeydd clyfar ar gyfer beiciau i fwy na 45 o wledydd, yn un cwmni sydd wedi cael help Llywodraeth Cymru i gryfhau ei fesurau ar gyfer amddiffyn ei IP a manteisio ar gyfleoedd masnachol newydd.
Derbyniodd y cwmni arian Cymorth Arloesi Hyblyg SMART (SFIS) gan Lywodraeth Cymru, ac Archwiliad o'i IP trwy IPO gan dîm Arloesi Llywodraeth Cymru.
I gael rhagor o wybodaeth, dilynwch y ddolen ganlynol: Cytundeb IPO i yrru arloesedd yn ei flaen
Mae Cymorth Arloesi Hyblyg (FIS) SMART ar gael i unrhyw sefydliad gan gynnwys y trydydd sector, awdurdodau lleol a byrddau iechyd sydd am Ymchwilio, Datblygu ac Arloesi. Os ydych chi'n credu mai dyma'r gefnogaeth addas ar gyfer eich sefydliad chi, y cam nesaf yw cysylltu: Cymorth Arloesi Hyblyg SMART (SMART FIS) | Busnes Cymru