Newyddion

Cytundeb Iechydol a Ffytoiechydol rhwng y DU a'r UE - Gwybodaeth i Fusnesau

polytunnel - plants

Anogir busnesau i gymryd camau syml ar gyfer masnach fwy hwylus gyda'r UE.

Ar 19 Mai 2025, cytunodd llywodraeth y DU a'r Undeb Ewropeaidd (UE) i fynd ar drywydd cytundeb Iechydol a Ffytoiechydol (SPS) newydd. Bydd hyn, ynghyd â Fframwaith Windsor, yn ei gwneud yn haws i nwyddau symud nid yn unig rhwng y DU a'r UE, ond hefyd o fewn y DU ei hun, gan gynnwys symudiadau mwy hwylus o Brydain Fawr i Ogledd Iwerddon.

Pwy fydd y newidiadau hyn yn berthnasol iddynt  - Bydd y Cytundeb SPS yn berthnasol yn wahanol ar draws sectorau. Y prif grwpiau sy'n debygol o fewn cwmpas y rhain yw:

  • Ffermwyr a chynhyrchwyr sylfaenol
  • Busnesau bwyd, bwyd anifeiliaid a diod
  • Cludwyr a darparwyr logisteg
  • Mewnforwyr ac allforwyr nwyddau SPS
  • Cynhyrchwyr a chyflenwyr plaladdwyr a bioladdwyr
  • Manwerthwyr a chyfanwerthwyr
  • Cyflenwyr hadau, planhigion a garddwriaethol
  • Milfeddygon

Ar gyfer rhai rheolau, ychydig o wahaniaeth a fu gyda'r UE a bydd y newid a welwch yn eich busnes yn fach iawn.  O ran eraill, bydd gwahaniaeth wedi bod ers gadael yr UE ac efallai y bydd angen i chi wneud newidiadau.

Bwriad Llywodraeth y DU yw y bydd y cytundeb yn dod i rym yng nghanol 2027, mae busnesau yn y sector bwyd-amaeth yn cael eu hannog i ddechrau paratoi nawr. Mae hyn yn cynnwys y rhai nad ydynt yn masnachu â’r UE ar hyn o bryd.

 Mae’r camau ymarferol y gall busnesau eu cymryd i’w gweld yn yr adran Beth gall busnesau ei wneud nawr.

Am ragor o wybodaeth cliciwch ar y ddolen hon: UK-EU SPS Agreement - Information for Businesses - GOV.UK

Os ydych chi'n newydd i allforio neu’n ystyried marchnadoedd newydd, mae rhai pethau allweddol y bydd angen i chi eu gwybod. Darllenwch dudalennau Allforio Busnes Cymru i gael rhagor o wybodaeth.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.