Anogir busnesau i gymryd camau syml ar gyfer masnach fwy hwylus gyda'r UE.
Ar 19 Mai 2025, cytunodd llywodraeth y DU a'r Undeb Ewropeaidd (UE) i fynd ar drywydd cytundeb Iechydol a Ffytoiechydol (SPS) newydd. Bydd hyn, ynghyd â Fframwaith Windsor, yn ei gwneud yn haws, yn rhatach ac yn fwy rhagweladwy i nwyddau symud nid yn unig rhwng y DU a'r UE, ond hefyd o fewn y DU ei hun, gan gynnwys symudiadau mwy hwylus o Brydain Fawr i Ogledd Iwerddon. Bwriedir i'r cytundeb ddod i rym yng nghanol 2027.
Bydd y Cytundeb SPS yn berthnasol yn wahanol ar draws sectorau. Y prif grwpiau sy'n debygol o fewn cwmpas y rhain yw:
- Ffermwyr a chynhyrchwyr sylfaenol
- Busnesau bwyd, bwyd anifeiliaid a diod
- Cludwyr a darparwyr logisteg
- Mewnforwyr ac allforwyr nwyddau SPS
- Cynhyrchwyr a chyflenwyr plaladdwyr a bioladdwyr
- Manwerthwyr a chyfanwerthwyr
- Cyflenwyr hadau, planhigion a garddwriaethol
- Milfeddygon
Ar gyfer rhai rheolau, ychydig o wahaniaeth a fu gyda'r UE a bydd y newid a welwch yn eich busnes yn fach iawn. O ran eraill, bydd gwahaniaeth wedi bod ers gadael yr UE, ac efallai y bydd angen i chi wneud newidiadau. Gan ddechrau ym mis Mai 2026, bydd Llywodraeth y DU yn darparu canllawiau manylach ar gyfer busnesau.
Mae’r camau ymarferol y gall busnesau eu cymryd i’w gweld yn yr adran Beth gall busnesau ei wneud nawr.
Am ragor o wybodaeth cliciwch ar y ddolen hon: UK-EU SPS Agreement - Information for Businesses - GOV.UK.
Mae llywodraeth y DU wedi lansio Galwad am Wybodaeth chwe wythnos o hyd i helpu busnesau baratoi ar gyfer y Cytundeb SPS newydd rhwng y DU a’r UE. Mae’r Galwad am Wybodaeth ar agor rhwng 9 Mawrth a 23 Ebrill 2026.
Am ragor o wybodaeth, ac i rannu’ch barn dilynwch y ddolen ganlynol: Cytundeb Iechydol a Ffytoiechydol (SPS) rhwng y Deyrnas Unedig a'r UE Galwad am Wybodaeth.