
Mae’r NatWest Accelerator wedi bod yn helpu busnesau i gychwyn a thyfu ers 10 mlynedd. I ddathlu, maen nhw wedi lansio cystadleuaeth syniadau NatWest Accelerator Pitch gyda chyfanswm gwobrau o £1 miliwn i'w gyfrannu yn ystod cyfres o gystadlaethau trwy gydol 2025 a thu hwnt.
Oes gennych chi syniadau gwych ac angerdd brwd i dyfu eich busnes? Oes? Yna mae'n swnio fel eich bod chi'n barod i gymryd rhan yn y gystadleuaeth!
I gystadlu anfonwch fideo 60 eiliad o hyd yn dweud wrthynt sut y bydd y cyllid yn tyfu eich busnes. Bydd y beirniaid yn dewis 5 i fynd i’r rownd derfynol fyw gyntaf ym Manceinion ar 31 Gorffennaf 2025.
Yn y digwyddiadau byw, bydd y rhai a gyrhaeddodd y rownd derfynol yn cyflwyno eu syniadau gorau yn arddull 'Dragon's Den'. Bydd y tri gorau ym mhob digwyddiad yn rhannu'r wobr o £100,000:
- Safle 1af - £70,000
- 2il safle - £20,000
- 3ydd safle - £10,000
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 5pm, 25 Mai 2025.
Am fwy o wybodaeth, dilynwch y ddolen ganlynol: Pitch competition | NatWest Business