
Nod Cystadleuaeth Arloesi mewn Monitro Morol Cymru yw rhoi cymorth wedi'i dargedu, a chael gwared ar rwystrau er mwyn annog busnesau monitro morol i fynd i mewn i gadwyn gyflenwi gwynt ar y môr y DU, gan alluogi datblygu prosiectau adnewyddadwy ym Môr Iwerddon a'r Môr Celtaidd.
Trwy gyngor arbenigol, mynediad at ddatblygu gweithdai a phrofion peilot ar y tir ac ar y môr, nod y cyfle trawsnewid busnes hwn yw cefnogi busnesau bach a chanolig i ddilysu a dadrisgio eu technolegau monitro amgylchedd morol arloesol.
Ariennir Cystadleuaeth Arloesi mewn Monitro Morol Cymru gan Fargen Ddinesig Bae Abertawe a'i chyflwyno gan y Ganolfan Ragoriaeth Peirianneg Ynni Morol (MEECE).
I wneud cais, rhaid i'ch cwmni fod:
- Yn fusnes sydd wedi’i gofrestru yn y DU
- Yn fenter ficro, bach neu ganolig (BBaCh)
- Yn weithredol neu'n ehangu eich gweithgareddau yn y clwstwr arloesi morol a morwrol yng Nghymru
- Ag uchelgais amlwg ar gyfer twf busnes
- Yn rhoi cyfraniad ariannol a/neu mewn nwyddau i gyfanswm costau'r prosiect
- Yn gwneud un cais yn unig fesul cwmni i'r alwad hon am arian
- Yn dangos bwriad clir i arallgyfeirio eu busnes i wynt ar y môr neu ddangos gallu presennol yn y sector.
- Yn gallu mynegi’n glir eu dymuniad i fynd i mewn / tyfu eu presenoldeb yn y farchnad gwynt ar y môr.
- Yn deall eu hanghenion a'u diffygion eu hunain fel busnes a bod ag agwedd ragweithiol at wella busnes ac adborth adeiladol.
- Yn dangos sut y byddai'r ymyrraeth yn effeithio ar eu busnes a'r ychwanegolrwydd y byddai'n ei ddarparu trwy fod wedi diwallu’r anghenion a nodwyd.
Bydd ceisiadau'n cau ddydd Mawrth 12 Awst 2025.
Dysgwch fwy am gymhwysedd, y broses ymgeisio, cyllid a gwerthuso yn y ddogfen gwmpas a chanllawiau ac Ariennir Cystadleuaeth Arloesi mewn Monitro Morol Cymru