
Mae’r Offshore Wind Growth Partnership (OWGP) wedi lansio’r Gystadleuaeth Ariannu Grant Datblygu ddiweddaraf, gyda chronfa gwerth £2 filiwn ar gyfer prosiectau sy'n canolbwyntio ar gyfleoedd cadwyn gyflenwi ynni gwynt ar y môr uchel eu gwerth. Mae grantiau o £50,000 i £500,000 ar gael.
Mae'r alwad yn agored i ystod eang o gynigion ar draws cadwyn gyflenwi bresennol y DU a darpar ymgeiswyr ar gyfer cynigion sy'n cyd-fynd â’r pum maes blaenoriaeth a nodwyd yn Industrial Growth Plan y diwydiant ynni gwynt ar y môr.
Amserlen isod:
- Dyddiad cau ar gyfer Ceisiadau Cam 1 – 28 Chwefror 2025 am 5pm
- Dyddiad cau ar gyfer Ceisiadau Cam 2 – 12 Mai 2025 am 5pm
- Penderfyniad ar y dyfarniadau – ar neu cyn 11 Gorffennaf 2025
Dyfernir cyllid ar sail gystadleuol, gyda blaenoriaeth yn cael ei rhoi i gynigion sy'n cynnwys datrysiadau sydd bron yn barod ar gyfer y farchnad neu sydd eisoes yn barod ar gyfer y farchnad, ac uchelgais clir ar gyfer twf o fewn y sector.
Am ragor o wybodaeth dewiswch y dolenni canlynol:
- OWGP awards twelve companies a share of £3m and announces a further £2m in scale up funding - Offshore Wind Growth Partnership
- Development Grants - Offshore Wind Growth Partnership