Newyddion

Cynnydd o dros 100% yn nifer yr ymweliadau gan longau mordeithio â Chymru

Viking Venus ship in Holyhead

Mae Cymru'n dod yn wlad y mae'n rhaid ymweld â hi ar gyfer mordeithiau, gyda’r ffigurau newydd yn datgelu cynnydd mewn ymweliadau llongau dros y blynyddoedd diwethaf.

Croesawodd y wlad 84 o longau mordeithio yn 2025, sy'n gynnydd o fwy na 100% o'i gymharu â'r 41 o longau a ymwelodd â phorthladdoedd Cymru yn 2021.

Mae'r twf parhaus hwn yn dangos cydnabyddiaeth gynyddol Cymru fel cyrchfan y mae'n rhaid ymweld ag ef ymhlith teithwyr mordeithio sy'n chwilio am brofiadau go iawn a thirweddau trawiadol.

Mae Cymru yn cynnig mynediad i weithredwyr a theithwyr mordeithio i bum porthladd sydd wedi'u lleoli'n strategol ledled y wlad: Caerdydd, Abertawe, Aberdaugleddau, Abergwaun, a Chaergybi, gyda phob un yn darparu mynediad heb ei ail i atyniadau amrywiol y wlad. Cymysgedd unigryw Cymru o hanes hynafol, diwylliant modern, a harddwch naturiol ysblennydd, o gestyll hynafol a safleoedd hanesyddol i ddinasoedd bywiog, sy’n gyfrifol am yr apêl gynyddol a welwn ymhlith teithwyr rhyngwladol.

Roedd Caergybi, sydd â chyfleusterau sy'n gallu darparu ar gyfer llongau hyd at 300 metr o hyd, wedi ymdrin â 55 o'r 84 o longau a ymwelodd â Chymru yn 2025.

Ar gyfer llongau mwy, mae system angori'r porthladd yn caniatáu i deithwyr gael eu trosglwyddo drwy longau tendio i'r marina, gan sicrhau y gall hyd yn oed llongau mwyaf y byd ddod ag ymwelwyr i brofi Gogledd Cymru.

I gael rhagor o wybodaeth, dilynwch y ddolen ganlynol: Cynnydd o dros 100% yn nifer yr ymweliadau gan longau mordeithio â Chymru | LLYW.CYMRU.

Mae twristiaeth yn fusnes mawr yng Nghymru. Gall bod yn berchen ar eich busnes twristiaeth eich hun a'i redeg fod yn brofiad gwerth chweil.

Waeth a ydych chi’n ystyried dechrau busnes twristiaeth newydd, eich bod eisoes wedi cymryd y camau cyntaf neu’n awyddus i dyfu eich busnes presennol, gallwn helpu gyda chyllid ar gyfer prosiectau newydd neu brosiectau sy'n bodoli eisoes, cynlluniau gradd sêr ar gyfer ansawdd llety ac atyniadau i dwristiaid, a gallwn helpu i hyrwyddo’ch busnes. Rydych chi yn y lle iawn ar gyfer cymorth busnes wedi'i deilwra ar gyfer busnesau twristiaeth: Twristiaeth | Busnes Cymru.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.