Heddiw, cafodd rhagor o fanylion am Gyllideb Ddrafft gwerth £27 biliwn Llywodraeth Cymru eu nodi, sy'n dangos cynnydd mewn cyllid ar gyfer pob adran allweddol.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford fod y cynlluniau gwario adrannol yn dangos ymrwymiad y llywodraeth i ddiogelu gwasanaethau cyhoeddus hanfodol, wrth gynnal sefydlogrwydd cyn etholiad y Senedd.
Mae Cam Dau Cyllideb Ddrafft 2026 i 2027 yn nodi mwy na £800 miliwn o gyllid ychwanegol o'i gymharu â chyllideb y llynedd, ac mae'n diogelu cyllid ar gyfer iechyd, addysg a gwasanaethau hanfodol eraill.
Mae'r Gyllideb Ddrafft yn cael ei chyhoeddi mewn dau gam. Roedd Cam Un, a gafodd ei gyhoeddi ar 14 Hydref 2025, yn cynnwys y dyraniadau adrannol lefel uchel. Bydd Cam Dau, sy'n cynnwys cynlluniau gwario adrannol mwy manwl, yn cael ei gyhoeddi ar 3 Tachwedd 2025.
Bydd y setliad llywodraeth leol drafft yn cael ei gyhoeddi yn nes ymlaen ym mis Tachwedd.
Caiff y Gyllideb Derfynol ei chyhoeddi ar 20 Ionawr 2026, gyda phleidlais yn y Senedd wedi'i threfnu ar gyfer 27 Ionawr 2026.
Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: Cynlluniau gwario manwl yn dangos ymrwymiad Llywodraeth Cymru i wasanaethau allweddol | LLYW.CYMRU.