Newyddion

Cynllun sefydliadau Pobl Fyddar ac Anabl 2025

people chatting in a community group

Mae’r cynllun sefydliadau Pobl Fyddar ac Anabl yn gynllun ar gyfer elusennau cofrestredig a Chwmnïau Buddiannau Cymunedol sy’n cael eu harwain gan bobl Fyddar ac Anabl sy’n profi tlodi ac sy’n gweithio ar eu rhan. Bydd eich sefydliad yn gweithio’n uniongyrchol gyda phobl Fyddar ac Anabl yn y tymor hir i’w cefnogi i gael mwy o ddewis a rheolaeth dros eu bywydau, gallu manteisio ar eu hawliau a herio’r rhwystrau sy’n eu hwynebu.

Bydd eich gwaith yn seiliedig ar fodel cymdeithasol o anabledd a byddwch yn gallu dangos sut mae'r ddealltwriaeth hon yn siapio'r gwaith yr ydych yn ei wneud, ac yn galluogi pobl i leisio'u barn.

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael grant o £75,000, dros dair blynedd (£25,000 y flwyddyn). Ni fydd cyfyngiad ar y grant, felly bydd sefydliadau sy’n derbyn cyllid yn gallu defnyddio’r grant i gefnogi unrhyw gostau sy’n hyrwyddo pwrpas cymdeithasol eu sefydliad.

Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais yw 4 Medi 2025.

Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: Deaf and Disabled People's Organisations Fund 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.