Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ei Chynllun Hawliau Pobl Anabl, sy'n ymrwymiad deng mlynedd i sicrhau bod pobl anabl yn gallu cymryd rhan lawn a chyfartal ym mhob rhan o fywyd yng Nghymru.
Mae'r cynllun yn nodi camau gweithredu ymarferol a nodau hirdymor i fynd i'r afael â rhwystrau yn ymwneud â chyflogaeth, trafnidiaeth, addysg, gofal iechyd, tai, byw'n annibynnol, mynediad digidol, a gwasanaethau cyhoeddus.
Mae'r cynllun, a luniwyd o'r cychwyn cyntaf gan bobl sydd â phrofiad bywyd ac arbenigedd trwy waith y Tasglu Hawliau Anabledd, yn ymateb i heriau gwirioneddol sy'n wynebu pobl anabl mewn bywyd bob dydd. Yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus, mae wedi'i gryfhau drwy gynnwys meysydd newydd fel rhieni a gofalwyr di-dâl, cynhwysiant digidol, a newid hinsawdd, ac mae'n cynnwys fframwaith clir i olrhain cynnydd a mesur effaith.
Bydd Uned Tystiolaeth Gwahaniaethau ar sail Anabledd Llywodraeth Cymru yn monitro cynnydd a bydd Bwrdd Cynghori Allanol newydd, a arweinir gan bobl anabl, yn darparu cyngor ac arweiniad annibynnol ar weithredu'r Cynllun.
Mae'r cynllun yn cynnwys camau gweithredu i wella cyfleoedd cyflogaeth i bobl anabl.
Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: Cynllun newydd uchelgeisiol i chwalu'r rhwystrau i bobl anabl yng Nghymru | LLYW.CYMRU.
Cefnogi Entrepreneuriaid Anabl yng Nghymru – Mae’r canllaw arfer da hwn wedi’i ddatblygu gan Anabledd Cymru ar ran Llywodraeth Cymru. Mae’r canllaw hwn yn darparu gwybodaeth a chyngor ymarferol i sefydliadau cymorth busnes a chynghorwyr ar y ffordd orau o ymgysylltu â phobl anabl sy’n dechrau, cynnal neu dyfu eu busnes yng Nghymru.