Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio cynllun newydd i wreiddio manteision Deallusrwydd Artiffisial (AI) mewn gwahanol sectorau a llywio ei ddylanwad i wella bywydau pobl ledled Cymru.
Wythnos ar ôl lansio'r Parth AI ar gyfer Gogledd Cymru, mae'r Cynllun AI i Gymru yn nodi sut y bydd pŵer trawsnewidiol deallusrwydd artiffisial yn cael ei groesawu ledled Cymru i sbarduno twf economaidd, gwella gwasanaethau cyhoeddus yn Gymraeg a Saesneg, ac arfogi pobl ledled Cymru gyda'r sgiliau i ffynnu mewn dyfodol lle mae AI yn chwarae rhan flaenllaw.
Bydd y Cynllun yn gweithredu fel map hirdymor ac yn sefydlu'r blociau adeiladu ar gyfer archwilio potensial AI mewn ffordd gyfrifol, foesegol a chydweithredol.
Mae Llywodraeth Cymru eisoes yn cyflawni'n gyflym ar AI. Mae wedi:
- lansio Parth Twf AI ar gyfer Gogledd Cymru, mewn partneriaeth â Llywodraeth y DU
- sefydlu Swyddfa AI i ddarparu arweinyddiaeth a chyfeiriad ar drawsnewid gwasanaethau cyhoeddus
- ffurfio'r Grŵp Cynghori Strategol annibynnol ar AI i gryfhau ein hecosystem ar draws sectorau
- buddsoddi mewn arloesi ym maes gwasanaethau cyhoeddus ac uwchsgilio'r gweithlu
- datblygu canllawiau moesegol ar gyfer defnyddio AI mewn gweithleoedd sector cyhoeddus trwy bartneriaeth gymdeithasol
Mae gwasanaethau cyhoeddus ledled Cymru eisoes yn manteisio ar AI, o ddysgu wedi'i bersonoli mewn ysgolion, i awtomeiddio mewn llywodraeth leol, a chael diagnosis cyflymach yn y GIG.
Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: Cynllun newydd i wreiddio manteision AI ledled Cymru | LLYW.CYMRU ac AI Cymru: Creu Cymru fwy Clyfar, Teg a Ffyniannus [HTML] | LLYW.CYMRU.