
Gall busnesau yn y DU wneud cais am gyfran o hyd at £2.9 miliwn ar gyfer prosiectau a arweinir gan fusnesau sy'n tyfu eu gweithgareddau arloesi yn y clwstwr diwydiannol sero net yn Ne-orllewin Cymru.
Bydd Innovate UK, sy'n rhan o Ymchwil ac Arloesi y DU, yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru a'i hasiantaethau i fuddsoddi hyd at £2.9 miliwn mewn prosiectau arloesi. Daw'r cyllid hwn o raglen Cynllun Lansio Innovate UK sy'n cefnogi nodau llywodraeth y DU ar gyfer twf economaidd lleol. Mae'r Cynllun Lansio hwn hefyd yn cefnogi Diwydiant Sero Net Cymru fel y sefydliad rheoli clwstwr lleol.
Nod y gystadleuaeth hon yw cefnogi prosiectau arloesi rhagorol a arweinir gan fusnesau. Mae'n rhaid i'r prosiectau fod yn gydweithredol.
Rhaid i’ch busnes ddefnyddio’r cyllid i dyfu eich gweithgareddau arloesi yn y clwstwr diwydiannol sero net yn Ne-orllewin Cymru, yn ystod y prosiect ac wedi hynny. Mae'r rhanbarth hwn yn cynnwys Sir Gaerfyrddin, Castell-nedd Port Talbot, Sir Benfro ac Abertawe. Gall eich prosiect ganolbwyntio ar y marchnadoedd ar gyfer datgarboneiddio diwydiannol yn Ne-orllewin Cymru ac yn fyd-eang.
Rhaid i gyfanswm cais cyllid grant cymwys eich prosiect fod rhwng £150,000 a £750,000. Gall hyn dalu hyd at 70% o'r costau, yn dibynnu ar y math o brosiect a maint y busnes.
Bydd cofrestru ar gyfer y gystadleuaeth yn cau am 11am ar 9 Ebrill 2025.
Am fwy o wybodaeth, dilynwch y ddolen ganlynol: Launchpad: net zero industry, Southwest Wales – Rd2 CR&D - Innovate UK Business Connect
Gall arloesi helpu eich busnes i ddod yn fwy cystadleuol, gall roi hwb i’w werthiant a’i helpu i sicrhau marchnadoedd newydd.
Mae ein parth busnes ac arloesi wedi'i gynllunio fel y gallwch chi ddarganfod pa gymorth a chyllid sydd ar gael i'ch helpu i arloesi. Gallwn eich helpu i fuddsoddi mewn ymchwil a datblygu (R&D), cyflwyno technegau a thechnolegau newydd ym maes dylunio a gweithgynhyrchu, diogelu eich asedau drwy hawliau eiddo deallusol (IP), a chael mynediad at gyfleusterau ac arbenigedd mewn prifysgolion a cholegau: Datblygu syniadau ar gyfer busnes, cynhyrchion neu wasanaethau | Busnes Cymru