Newyddion

Cynllun Cystadleurwydd Diwydiannol Prydain: ymgynghoriad ar newidiadau rheoleiddiol a chylenwi'r cynlluniau

Engineers looking at a digital device

Nod Cynllun Cystadleurwydd Diwydiannol Prydain (BICS) yw lleihau costau trydan ar gyfer diwydiannau gweithgynhyrchu  blaengar o fewn sectorau twf y Strategaeth Ddiwydiannol (yr IS-8), a diwydiannau gweithgynhyrchu sylfaenol sy'n darparu mewnbynnau allweddol i'r diwydiannau blaengar, sy'n bodloni'r trothwy dwyster trydan perthnasol.

Bydd busnesau cymwys yn cael eu heithrio rhag talu costau anuniongyrchol y Rhwymedigaeth Ynni Adnewyddadwy a'r Tariffau Bwydo i Mewn o fis Ebrill 2027 a'r Farchnad Gapasiti o fis Hydref 2027.  

Mae'r ymgynghoriad hwn yn ceisio barn ar y newidiadau rheoleiddiol arfaethedig sy'n cael eu gwneud i roi effaith i BICS a sut mae Llywodraeth y DU yn cynnig cyflawni'r cynllun.

Mae'r ymgynghoriad yn cau am 11:59pm ar 14 Mai 2026.

I gael rhagor o wybodaeth, gallwch gofrestru ar gyfer y gweminarau BICS canlynol ar gyfer:


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.