Cyhoeddodd y Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni, Adam Price, y bydd cwmnïau a sefydliadau o Gymru yn gallu cael mynediad at gyllid ymchwil a datblygu wrth i Gymru ddod yn bartner rhanbarthol gyda chynllun mawr gan yr UE.
Mae Cymru wedi ymuno â phrosiect UNITE, Dyffrynnoedd Iechyd Digidol Ewrop, a grëwyd i bontio'r gagendor iechyd digidol yn Ewrop a thrawsnewid gofal iechyd drwy arloesi mewn technoleg.
Mae'r prosiect yn cael ei ariannu gan raglen Horizon Ewrop yr UE ac mae'n dod â rhanbarthau Ewropeaidd at ei gilydd i adeiladu ecosystem gysylltiedig ar gyfer iechyd digidol, gan alluogi gwaith datblygu, profi ac ehangu datrysiadau gofal iechyd arloesol.
Dyma'r grant cyntaf o'r UE y mae Llywodraeth Cymru wedi'i sicrhau ers Brexit – gyda Llywodraeth Cymru yn derbyn cyllid o fwy na £700,000 i gefnogi cyfranogiad yn y cynllun, gan sicrhau bod sefydliadau Cymru yn gallu cymryd rhan lawn mewn cyfleoedd partneriaeth a chyllid newydd.
Mae busnesau bach a chanolig, byrddau iechyd, prifysgolion a chyrff arloesi yng Nghymru yn cael eu hannog i ymgysylltu'n gynnar, datblygu partneriaethau a pharatoi syniadau prosiect sy'n cyd-fynd â heriau gofal iechyd allweddol.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am raglen UNITE drwy gofrestru ar gyfer gweminar am ddim ar 3 Medi 2026 11am-12pm.
Neu, ffoniwch Busnes Cymru ar 03000 6 03000, rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg, neu ewch i Busnes Cymru.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am gyfleoedd eraill yn rhaglen Horizon Ewrop drwy e-bostio HorizonEurope@llyw.cymru
I ddarllen y datganiad llawn dewisiwch y ddolen ganlynol: Cynllun ariannu'r UE o ran Iechyd Digidol ar agor ar gyfer ceisiadau o Gymru | LLYW.CYMRU.