Newyddion

Cynllun ar gyfer Cymdogaethau

Rhyl

Bydd Cynllun ar gyfer Cymdogaethau Llywodraeth y DU yn grymuso pobl leol i adennill rheolaeth o'u dyfodol gyda chronfa gyllido hyblyg hirdymor o hyd at £20 miliwn o gyllid a chefnogaeth dros y 10 mlynedd nesaf.

Mae 75 o leoedd ledled Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon wedi cael eu dewis i dderbyn cyllid drwy'r Cynllun ar gyfer Cymdogaethau.

Yng Nghymru, Y Barri, Wrecsam, Y Rhyl, Cwmbrân a Merthyr Tudful bydd yn derbyn yr arian.

​Yn ei hanfod, mae'r Cynllun ar gyfer Cymdogaethau yn bartneriaeth rhwng y Bwrdd Cymdogaeth a llywodraeth leol, gyda chefnogaeth Llywodraeth y DU. Bydd y bartneriaeth hon yn ysgogi twf drwy wella seilwaith materol a chymdeithasol eu cymuned ac yn sicrhau gwelliannau pendant i fywydau bob dydd y cymunedau hyn. 

Mae'r bwrdd, gan weithio gyda'r awdurdod lleol, yn gyfrifol am gynhyrchu Cynllun Adfywio 10 mlynedd ar gyfer eu hardal, gan nodi'r gweithgareddau yr ymgymerir â hwy i gyflawni 3 amcan strategol y rhaglen hon:

  • lleoedd llewyrchus
  • cymunedau cryfach
  • adennill rheolaeth

Dyddiadau pwysig:

  • 22 Ebrill 2025: Byrddau Cymdogaeth yn cadarnhau aelodaeth derfynol ac unrhyw gynigion i newid ffiniau eu lleoedd.
  • Gwanwyn 2025 - Gaeaf 2025: Byrddau Cymdogaeth yn cyflwyno eu Cynllun Adfywio i'r Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol i'w asesu a'i gymeradwyo.
  • O fis Ebrill 2026: Rhyddhau cyllid cyflawni rhaglenni i awdurdodau lleol, a'r cyfnod cyflawni yn dechrau.

Am fwy o wybodaeth, dilynwch y ddolen ganlynol: Plan for Neighbourhoods: prospectus - GOV.UK


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.