Newyddion

Cynhadledd Ymarferwyr Diogelu Data 2026

Data protection - digital padlock

Cofrestrwch ar gyfer Cynhadledd Ymarferwyr Diogelu Data (DPPC) eleni, a gynhelir ar-lein ar 13 Hydref 2026.

Mae seminarau eleni yn cynnwys:

  • Rhyddid Gwybodaeth: Clinig 'Gofynnwch unrhyw beth'
  • Deddf Data (Defnydd a Mynediad): Y Clwb Cwynion
  • Digwyddiadau seiber: meithrin gwydnwch yn eich sefydliad
  • Straeon Data: defnyddio data iechyd ar gyfer ymchwil ac arloesi
  • Rhyddid Gwybodaeth: cymhwyso prawf budd y cyhoedd
  • AI a gwneud penderfyniadau awtomataidd: deall y rheolau sydd wedi'u diweddaru
  • Rhanddirymiadau Erthygl 49: deall sut i wneud y gorau o becyn cymorth trosglwyddiadau GDPR y DU
  • Ceisiadau Gwrthrych am Wybodaeth ar waith: ymdrin â cheisiadau heriol
  • Rhyddid Gwybodaeth: defnyddio technoleg i ymdrin â llwythi achosion cynyddol

Mae'r DPPC yn ddigwyddiad rhithwir sydd yn rhad ac am ddim i unrhyw un sy'n gweithio ym maes diogelu data.

Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth ac i gofrestru ar gyfer y gynhadledd:  Data Protection Practitioners' Conference 2026 | ICO.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.