Newyddion

Cynhadledd Ymarferwyr Diogelu Data 2025

Data protection and customer data

Cofrestrwch ar gyfer bod yn bresennol yn y Gynhadledd ar gyfer Ymarferwyr Diogelu Data, a gynhelir ar-lein eleni ar ddydd Mawrth 14 Hydref 2025.

Mae'r DPPC yn ddigwyddiad rhithwir sydd am ddim i unrhyw un sy'n gweithio ym maes diogelu data.

Yn ogystal â siaradwyr gwadd ysbrydoledig yn siarad am y pynciau sy'n bwysig i chi, bydd paneli arbenigol yn trafod materion fel seiberddiogelwch, deallusrwydd artiffisial, rhannu data, a Deddf Defnyddio a Mynediad Data 2025 (DUAA), gan gynnig arweiniad ymarferol ac arbenigol i weithwyr proffesiynol sy'n gweithio gyda data personol.

Cliciwch ar y ddolen ganlynol i dderbyn mwy o wybodaeth ac i archebu lle:


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.