
Yn dilyn llwyddiant Securing the Future: Women in Cyber 2024, bydd Women in Cyber yn cynnal eu hail gynhadledd seiberddiogelwch genedlaethol ar gyfer menywod a chynghreiriaid yn ICC Wales, Casnewydd, ar 12 Chwefror 2025.
Bydd y digwyddiad yn dathlu'r gwaith y mae menywod yn ei wneud yn y sector, gan arddangos eu talent ar draws ystod eang o wahanol swyddi a chan ddangos pa mor bwysig yw hi i gael gweithlu cynhwysol. Bydd y gynhadledd yn cynnwys sesiynau ar y bygythiadau a’r heriau seiberddiogelwch sy’n bodoli ar hyn o bryd, ar ddatblygu sgiliau, a thyfu eich rhwydwaith, yn ogystal â gweithgaredd seiberddiogelwch rhyngweithiol, addas ar gyfer pob lefel.
Am ragor o wybodaeth ac i archebu eich tocyn, dilynwch y ddolen ganlynol: Tocynnau Resilient Futures: Women in Cyber, Mercher 12 Chwefror 2025 am 09:00 | Eventbrite