Newyddion

Cynhadledd Gwrthgaethwasiaeth Cymru 2025

business conference - delegates applauding

Mae caethwasiaeth fodern yn her fyd-eang, ond gall pob un ohonom wneud ein rhan i fynd i'r afael â'r drosedd echrydus hon a'i hatal. Dyma eich cyfle i fod yn rhan o'r ateb drwy ddod i gynhadledd Gwrthgaethwasiaeth Cymru 2025.

Mae Gwrthgaethwasiaeth Cymru yn ddigwyddiad blynyddol sy'n dod â phartneriaid a sefydliadau ynghyd i rwydweithio a rhannu eu dysgu a’u profiadau. Yn ogystal, mae eleni yn nodi 10 mlynedd ers y Ddeddf Caethwasiaeth Fodern. Cynhelir y gynhadledd eleni ar 16 Hydref 2025.

Caiff cynhadledd Gwrthgaethwasiaeth Cymru ei chynnal mewn partneriaeth rhwng Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throseddu’r Gogledd a Llywodraeth Cymru, yng Nghanolfan Fusnes Conwy. Am y tair blynedd diwethaf, mae Swyddfa’r Comisiynydd Heddlu a Throseddu wedi cynnal cynhadledd lwyddiannus iawn Pawb yn Un o gwmpas yr un dyddiad ac yn yr un lleoliad. Bydd digwyddiad Gwrthgaethwasiaeth Cymru eleni yn parhau â thema Pawb yn Un wrth geisio ymateb amlasiantaethol i gwestiwn enfawr sy’n effeithio ar Gymru a sut y gall gwahanol randdeiliaid ddod at ei gilydd i fynd i’r afael â chaethwasiaeth fodern yn ein gwlad.

Bydd y cynhadledd yn rhoi cyfle i gynrychiolwyr glywed gan siaradwyr arbenigol, gan gynnwys:

  • Jane Hutt AS, Cabinet Secretary for Social Justice, Trefnydd and Chief Whip
  • Andy Dunbobbin, North Wales Police and Crime Commission
  • Eleanor Lyons, Independent Anti-Slavery Commissioner

Bydd y gynhadledd o ddiddordeb i ystod eang o bobl a sefydliadau ar draws y sector cyhoeddus, y sector preifat neu'r trydydd sector yng Nghymru. Rydym yn croesawu ac yn annog cyfranogiad gan y rhai sydd â phrofiad personol o gamfanteisio.

Gallwch ymuno â'r gynhadledd wyneb yn wyneb yng Nghanolfan Fusnes Conwy neu ymuno ar-lein trwy Microsoft Teams. Nifer gyfyngedig o docynnau wyneb yn wyneb sydd ar gael, ac felly fe'ch anogir i archebu'n gynnar. Cofrestrwch yma: Business Wales Events Finder - Cynhadledd Gwrthgaethwasiaeth Cymru 2025

Cysylltwch â GwaithTeg@llyw.cymru i gael rhagor o wybodaeth ac os oes gennych unrhyw ymholiadau.

Mae cynhadledd Gwrthgaethwasiaeth Cymru 2025 ar wahân i'r Gynhadledd Busnes a Chaethwasiaeth Fodern, a gynhelir ar 9 a 10 Medi 2025. Gweler Modern Slavery Conference 2025 am ragor o wybodaeth am y Gynhadledd Busnes a Chaethwasiaeth Fodern.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.