Ymunwch ag arbenigwyr blaenllaw, ymarferwyr a llu o sefydliadau ar gyfer cynhadledd Gwrthgaethwasiaeth Cymru 2026.
Mae Cynhadledd Gwrthgaethwasiaeth Cymru, sydd bellach wedi ennill ei phlwyf fel digwyddiad blynyddol, yn cynnig cyfle unigryw i bartneriaid a sefydliadau ddod ynghyd i rwydweithio, rhannu profiadau a chryfhau'r cydweithio yn y frwydr yn erbyn caethwasiaeth fodern.
Cynhelir y gynhadledd eleni ar 15 Hydref 2026 ym Mhrifysgol De Cymru yng Nghasnewydd.
Cyflwynir y gynhadledd mewn partneriaeth rhwng Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent, Llywodraeth Cymru a Phrifysgol De Cymru, a bydd yn cynnwys rhaglen drawiadol o siaradwyr proffil uchel, mewnwelediad arbenigol, a chyfleoedd rhwydweithio.
Dywedodd Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent, Jane Mudd:
Mae'r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas yn wynebu rhai o'r bygythiadau mwyaf i'w diogelwch gan droseddwyr sy'n ceisio eu hecsbloetio. Mae caethwasiaeth fodern yn aml yn cael ei chuddio a gall ddigwydd heb i'n cymunedau sylwi, ond mae ei chysylltiadau â throseddau difrifol a threfnedig yn golygu ei bod yn cyffwrdd â phob un ohonom mewn rhyw ffordd.
Gall y niwed a'r trawma hirdymor a achosir gan gaethwasiaeth fodern a chamfanteisio adael creithiau sydd, mewn llawer o achosion, byth yn cael eu gwella'n llwyr. Bydd y gynhadledd hon yn dod â phartneriaid a sefydliadau o'r sectorau cyhoeddus a phreifat a'r trydydd sector ynghyd i edrych ar y sefyllfa bresennol yng Nghymru. Bydd hefyd yn archwilio sut y gallwn ddefnyddio'r wybodaeth a'r profiad sydd gennym ni i fynd i'r afael â'r materion hyn a chryfhau ein hymateb ar y cyd i gaethwasiaeth ac ecsbloetio.
Bydd y gynhadledd eleni yn archwilio dau fater allweddol yn fwy manwl. Bydd sesiwn y bore yn canolbwyntio ar ecsbloetio plant, gyda sylw arbennig i'r risgiau cynyddol o ecsbloetio ar-lein. Yn y prynhawn, bydd cynrychiolwyr yn archwilio sut gall tai a'r cartref fod yn lleoliadau ecsbloetio, gan gynnwys trafodaethau ar gogio, caethwasanaeth domestig, a chamfanteisio rhywiol.
Bydd cynrychiolwyr yn clywed gan siaradwyr arbenigol gan gynnwys:
- Sioned Williams AS, y Dirprwy Brif Weinidog a Gweinidog Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb
- Jane Mudd, Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent
- Eleanor Lyons, Comisiynydd Gwrthgaethwasiaeth Annibynnol
Bydd y gynhadledd o ddiddordeb i ystod eang o bobl a sefydliadau ar draws y sector cyhoeddus, y sector preifat neu'r trydydd sector. Rydym yn arbennig o awyddus i groesawu'r rhai sy'n gweithio yn y sector tai a llywodraeth leol, yn ogystal â phobl sydd â phrofiad byw o ecsbloetio.
Gallwch ymuno â'r gynhadledd drwy fynd i Brifysgol De Cymru yng Nghasnewydd neu ymuno ar-lein trwy Microsoft Teams. Mae nifer y tocynnau wyneb yn wyneb yn gyfyngedig – ac felly fe'ch anogir i archebu'n gynnar.
I gael rhagor o wybodaeth ac i gofrestru ar gyfer y digwyddiad os am ddod yn bersonol, ewch i: Digwyddiadur Busnes Cymru - Cynhadledd Gwrthgaethwasiaeth Cymru 2026 (ymuno yn bersonol).
Os hoffech ymuno â'r digwyddiad hwn ar-lein, cofrestrwch yma: Business Wales Events Finder - Cynhadledd Gwrth-Gaethwasiaeth Cymru 2026 (Digidol).
Cysylltwch â gwaithteg@llyw.cymru am ragor o wybodaeth ac os oes gennych unrhyw ymholiadau.