Newyddion

Cynhadledd Flynyddol 2024 Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru

NTFW Annual conference

Bydd Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTFW) yn cynnal ei gynhadledd flynyddol ar 22 Mawrth 2024, yn ICC Cymru, Casnewydd. Y thema eleni yw ‘Prentisiaethau, Sgiliau ar gyfer Twf Economaidd yng Nghymru’.

Bydd y gynhadledd, a fydd yn cynnwys trafodaeth gan banel o gyflogwyr, yn canolbwyntio ar “fynd ati heddiw i adeiladu llwyddiant yfory”.

Bydd cynrychiolwyr yn trafod sut i ddatgloi potensial trwy brentisiaethau, gan rymuso pobl ar gyfer y dyfodol, grymuso cyflogwyr a sbarduno ffyniant economaidd.

Bydd y digwyddiad yn cynnwys nifer o weithdai, gan gynnwys:

  • Economi a Seilir ar Sgiliau yng Nghymru: Tyfu BBaChau trwy Ddatblygu Sgiliau.
  • Recriwtio, cadw staff a rheoleiddio proffesiynol.
  • Cymraeg 2050 – Datblygu gweithlu ar gyfer Cymru ddwyieithog.
  • Archwilio sut y gall technolegau digidol wella profiad prentisiaid o ran dysgu ac asesu.
  • Yr Asesydd a’i rôl ganolog ac allweddol ym mhrofiad y prentis.
  • Stigma Iechyd Meddwl mewn Gweithleoedd.
  • Ffeindio’ch ffordd trwy gyfleoedd a heriau AI (Deallusrwydd Artiffisial).

Y dyddiad cau ar gyfer archebu lle yw dydd Mercher 6 Mawrth 2024. I gael manylion ychwanegol ac i sicrhau eich tocynnau, cliciwch ar y ddolen ganlynol: Cynhadledd NTFW 2024 | Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru

Paratowch eich busnes drwy nodi bwlch sgiliau, datblygu sgiliau eich gweithle er mwyn sicrhau llwyddiant ac addasu eich gweithlu gyda gweithwyr medrus newydd: Croeso i Recriwtio a Hyfforddi - am wybodaeth a chyngor ar gymorth recriwtio a hyfforddiant | Busnes Cymru Porth Sgiliau (gov.wales)


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.