Newyddion

Cynhadledd Busnesau Bach Gogledd Cymru 2025

Business event, networking

Mae Ffederasiwn y Busnesau Bach (FSB) yng Nghymru yn dod â'i Gynhadledd Busnesau Bach Gogledd Cymru i Brifysgol Wrecsam ddydd Iau, 26 Mehefin 2025.

Diolch i bartneriaethau gyda Business News Wales, Llywodraeth Cymru, Prifysgol Wrecsam a'r Weinyddiaeth Amddiffyn, mae'r digwyddiad hwn yn rhad ac am ddim (rhaid cofrestru).

Bydd sesiynau’n rhoi strategaethau ymarferol i fusnesau lwyddo, gan gwmpasu popeth o gael yr apwyntiad cyntaf hollbwysig hwnnw i’w droi’n werthiant a chadw cwsmeriaid ar gyfer refeniw cynaliadwy.

Yn ogystal, bydd y rhai sy’n bresennol yn cael gwybodaeth hanfodol am sut y gall Eiddo Deallusol amddiffyn eu brand, eu cynhyrchion, a'u harloesedd yn y farchnad gystadleuol sydd ohoni heddiw.

Gyda stondinau cymorth masnach a busnes pwrpasol a digon o amser rhwydweithio, mae'r digwyddiad hwn yn gyfle gwych i fusnesau bach gysylltu â chymheiriaid yn y diwydiant, archwilio partneriaethau busnes, a chael mynediad at wasanaethau cymorth hanfodol.

Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth ac i archebu eich lle: North Wales Small Business Conference 2025


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.