
Mae cynhadledd flynyddol Ffederasiwn Busnesau Bach (FSB) De Cymru yn ôl, gyda siaradwyr a chyfleoedd rhwydweithio er mwyn helpu eich busnes i dyfu.
Cynhelir y gynhadledd ar 3 Medi 2025 yn Abertawe a diolch i’r partneriaid, Llywodraeth Cymru, y Weinyddiaeth Amddiffyn, Bargen Ddinesig Bae Abertawe a Business News Wales, mae'r digwyddiad hwn yn rhad ac am ddim i'w fynychu, ond mae cofrestru'n gynnar yn hanfodol.
Peidiwch â cholli'r cyfle gwych hwn i roi hwb i’ch busnes!
Mae'r digwyddiad hwn yn addas ar gyfer busnesau bach o bob math, ac mae mannau arddangos ar gael i fynychwyr ar sail y cyntaf i'r felin.
Cofrestrwch nawr am ddim: Cynhadledd Busnesau Bach Ffederasiwn Busnesau Bach (FSB) De Cymru 2025