
Ymunwch â Chynhadledd Ar-lein Wythnos Hinsawdd Cymru eleni - a chyfrannwch at lywio ein dyfodol hinsawdd.
O ddydd Llun 3ydd i ddydd Mercher 5ed Tachwedd, bydd Cymru’n dod ynghyd am dridiau o drafod, cydweithio a gweithredu. Mae’r gynhadledd hon yn dra gwahanol - mae’n gyfle i helpu i lywio’r trafodaethau a fydd yn arwain trydydd cynllun allyriad carbon Cymru am y pum mlynedd nesaf a thu hwnt.
Bydd eich mewnbwn yn helpu Cymru i achub cyfleoedd mewn meysydd lle gallwn arwain y ffordd, o drafnidiaeth a thai, i amaeth a defnydd tir, wrth sicrhau ar yr un pryd bod y buddion yn cael eu rhannu’n deg ar draws ein gwlad.
Beth sy’n newydd eleni?
- Rhaglen ryngweithiol, newydd wedi’i threfnu’n ofalus, yn cynnwys podlediadau, dadleuon panel byw a gweithdai cydweithredol.
- Cyfleoedd i gysylltu ag eraill mewn gofodau rhwydweithio rhithiol.
- Bwth arddangosfa y gellir ei addasu’n llwyr, lle gallwch arddangos eich gwaith a chynnau partneriaethau newydd.
- Pleidleisiau byw, sesiynau holi ac ateb a nodweddion rhyngweithiol fel bod eich llais nid yn unig yn cael ei glywed ond hefyd yn cael ei weithredu arno.
Ymunwch a dewch yn rhan o lunio dyfodol sero net uchelgeisiol, teg a llawn cyfleoedd i Gymru.
Am fwy o wybodaeth, ac i gofrestru ar gyfer y gynhadledd, dilynwch y ddolen hon: Wythnos Hinsawdd Cymru: 03-07 Tachwedd 2025 - Gweithredu ar Hinsawdd Cymru.
Mae’r Addewid Twf Gwyrdd yn helpu busnesau Cymru i gymryd camau gweithredol tuag at wella eu cynaliadwyedd, gan ddangos yr effaith gadarnhaol maent yn ei chael ar bobl a lleoedd o’u cwmpas. Cofrestrwch heddiw: Addewid Twf Gwyrdd | Busnes Cymru (llyw.cymru).