Newyddion

Cynhadledd ac Arddangosfa Gweithgynhyrchu a Chadwyn Gyflenwi Cymru

manufacturing

Bydd Cynhadledd ac Arddangosfa Gweithgynhyrchu a Chadwyn Gyflenwi Cymru yn dychwelyd i Ganolfan Gynadledda Ryngwladol Casnewydd ar 26 Chwefror 2026, gan ddenu’r goreuon o fyd gweithgynhyrchu, peirianneg, ac arwain cadwyni cyflenwi yng Nghymru.

Mae'r digwyddiad cenedlaethol undydd hwn wedi'i gynllunio i arddangos datblygiadau diwydiannol arloesol ac i fynd i'r afael â'r heriau gwirioneddol sy'n wynebu cwmnïau gweithgynhyrchu yng Nghymru a thu hwnt. Gyda 150+ o arddangoswyr, 100+ o siaradwyr arbenigol, a miloedd o weithwyr proffesiynol o’r diwydiant, mae'r gynhadledd yn cynnig cyfle heb ei ail i rwydweithio, i ddysgu ac i dyfu’n fasnachol.

Cewch fynediad cyffredinol i'r digwyddiad yn rhad ac am ddim. Fodd bynnag, rydym yn eich annog i gofrestru ymlaen llaw er mwyn sicrhau eich lle ac i gael y newyddion diweddaraf.

Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: Home - Wales Manufacturing & Supply Chain Expo.

Gall arloesi helpu eich busnes i fod yn fwy cystadleuol, cynyddu gwerthiant a chyrraedd marchnadoedd newydd. Yma gallwch ddarganfod pa gymorth a chyllid sydd ar gael i'ch helpu i arloesi: Datblygu syniadau ar gyfer busnes, cynhyrchion neu wasanaethau | Busnes Cymru.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.