
Mae ProtectUK yn ffynhonnell ddibynadwy o gyngor, arweiniad a dysgu am ddim ar ddiogelwch a pharodrwydd amddiffynnol gwrthderfysgaeth ar gyfer lleoliadau a mannau cyhoeddus ledled y Deyrnas Unedig.
Mae yna gamau y gallwch chi a'ch busnes eu cymryd sy’n cynnwys y canlynol:
- Edrychwch ar y cyngor a'r canllawiau diweddaraf: Dewch o hyd i'r cyngor a'r canllawiau gorau i chi ac edrychwch drwy’r ystod eang o ddogfennau sydd ar gael i chi. Os oes gennych ddiddordeb mewn edrych ar sut i sicrhau bod eich busnes yn parhau, edrychwch ar ‘Response’. Chwilio am ffyrdd o amddiffyn eich staff a'u paratoi? Edrychwch ar yr adran ‘Security’.
- Gwnewch asesiad risg: Ewch i'r dudalen Risk Management Process a dilynwch y camau i gynnal asesiad risg, gan eich helpu i wella prosesau rheoli risg eich sefydliad.
- Byddwch yn rhyngweithiol: Cwblhewch yr ACT Awareness e-learning i wella eich gwybodaeth am ddiogelwch. Os oes gennych gwestiynau ynghylch diogelwch neu os hoffech gynyddu eich gwybodaeth, dechreuwch drafodaeth ar fforymau ProtectUK a siaradwch â gweithwyr proffesiynol eraill ym myd busnes ar bynciau allweddol.
- Darllenwch erthyglau newyddion: Bydd erthyglau newyddion ProtectUK yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf ar fyd gwrthderfysgaeth, dadansoddiad o fygythiadau gan eu dadansoddwyr, a diweddariadau cyffredinol ar blatfform ProtectUK.
- Cofrestrwch i gael mynediad llawn i'r platfform.
Am fwy o wybodaeth, dilynwch y ddolen hon: ProtectUK | Home